Wicipedia:Tiwtorial: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda '<div style="border:2px solid #A3B1BF; padding:.5em 1em 1em 1em; border-top:none; background-color:#fff; color:#000"><noinclude> </noinclude> == Tiwtorial goly...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:21, 12 Rhagfyr 2009

Tiwtorial golygu Wicipedia – Cyflwyniad

Gwyddoniadur a olygir ar y cyd ydy Wicipedia a gallwch chi gyfrannu ato. Bydd y tiwtorial hwn yn eich cynorthwyo i fod yn gyfrannwr i Wicipedia.

Bydd y tudalennau canlynol yn cynnig arweiniad i chi ynglyn ag arddull a chynnwys erthyglau Wicipedia, ac yn esbonio wrthoch am y gymuned Wicipedia a phwysigrwydd polisïau a chonfensiynnau Wicipedia.

Tiwtorial elfennol yw hwn, ac nid canllaw manwl. Os hoffech fwy o wybodaeth, ceir dolenni i dudalennau eraill sy'n cynnwys esboniadau helaethach. Os hoffwch eu darllen tra'n bwrw ati, gallwch agor ffenest bori neu dab arall.

Mae yna ddolenni i dudalen y "Pwll tywod" lle gallwch arbrofi gyda'r hyn rydych yn dysgu. Arbrofwch a chwaraewch gyda'ch wybodaeth newydd! Ni fydd gwahaniaeth gan neb os ydych yn gwneud camgymeriad ac yn arbrofi ar y tudalennau ymarfer hyn.

Sylwer: Mae'r tiwtorial yn cymryd yn ganiataol eich bod yn defnyddio gosodiad rhagosodedig y dudalen. Os ydych wedi mewngofnodi ac wedi newid eich dewisiadau, mae'n bosib y bydd lleoliad y dolenni'n wahanol.