Donald Trump: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Tegel (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 194.83.12.103 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Llywelyn2000.
Tagiau: Gwrthdroi
Llinell 3:
| dateformat = dmy
}}
Etholwyd '''Donald Trump''' (ganwyd [[14 Mehefin]] [[18461946]]) yn 45ed Arlywydd [[Unol Daleithiau America]] ar [[8 Tachwedd]] [[2016]] gan ddilyn yr arlywydd [[Obama]], gan gynrychioli'r [[Plaid Weriniaethol yr Unol Daleithiau|Gweriniaethwyr]]. Yn wahanol i bob arlywydd o'i flaen mae'n siarad heb ymgynghori, heb lawer o ffrwyn y diplomat, yn aml mewn trydar, gan ddefnyddio iaith dyn y stryd e.e. ar 20 Medi 2017 galwodd arweinydd [[Gogledd Corea]] yn ''rocket man''. Mae Trump wedi gwneud nifer o ddatganiadau anghywir, a hynny'n gyhoeddus.<ref name="Qiu">Linda Qiu, [https://www.nytimes.com/2017/04/29/us/politics/fact-checking-president-trump-through-his-first-100-days.html Fact-Checking President Trump Through His First 100 Days], ''New York Times'' (29 Ebrill 2017).</ref><ref name="KesslerHee">Glenn Kessler & Michelle Ye Hee, [https://www.washingtonpost.com/news/fact-checker/wp/2017/05/01/president-trumps-first-100-days-the-fact-check-tally/ President Trump's first 100 days: The fact check tally], ''Washington Post'' (Dydd Calan 2017).</ref><ref name="nytimes.com">Linda Qiu, [https://www.nytimes.com/2017/06/22/us/politics/factcheck-donald-trump-iowa-rally.html In One Rally, 12 Inaccurate Claims From Trump]. ''New York Times'' (22 Mehefin 2017).</ref> Yn ystod chwe mis cyntaf ei arlywyddiaeth, cafwyd llawer o gyhuddiadau ei fod ef a'i deulu'n defnyddio'r swydd i wneud arian, ei fod yn anwadal a'i fod wedi cydweithio gyda Rwsia i ddylanwadu ar yr etholiad ym yr arlywyddiaeth.<ref name="hill-12jul2017">{{cite news|last1=Marcos|first1=Cristina|title=House Democrat files article of impeachment against Trump|url=http://thehill.com/homenews/house/341677-house-dem-files-article-of-impeachment-against-trump|accessdate=12 Gorffennaf 2017|newspaper=The Hill|date=12 Gorffennaf 2017}}</ref>
 
Mae Trump hefyd yn ddyn busnes Americanaidd, yn awdur ac yn ŵr amlwg ar y teledu. Ef yw [[Cadeirydd]] a [[Prif weithredwr|Phrif Weithredwr]] (CEO) y ''Trump Organization'', sefydliad sy'n datblygu eiddo yn [[yr Unol Daleithiau]]. Ef hefyd yw sefydlydd y ''Trump Entertainment Resorts'', sy'n gweithredu nifer o [[casino|gasinos]] a [[gwesty|gwestai]] ar draws y byd. Mae bywyd afradlon ac agwedd ddi-flewyn-ar-dafod Trump wedi'i wneud yn enwog yn llygad y cyhoedd am flynyddoedd, ac yn y [[2010au]] bu'n gyflwynydd a chynhyrchydd gweithredol ei [[teledu realiti|sioe realiti]] ''The Apprentice'' ar [[NBC]]. Yn ôl Forbes, roedd ganddo US$3.7 biliwn yn 2016 ac ef oedd 324fed person cyfoethoca'r byd. Cyn gynted ag y dyrchafwyd ef yn arlywydd, dirprwyodd rheolaeth o'i gwmniau i'w feibion Donald Jr. ac Eric.