Meilyr Brydydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
 
B →‎Ei gerddi: Wikipedia wedi fy allgofnodi heb imi sylwi, unwaith eto!
Llinell 8:
==Ei gerddi==
[[Pencerdd]] llys [[Gruffudd ap Cynan]] (c.[[1055]]-[[1137]])oedd Meilyr Brydydd. Mae un o'r tair cerdd a briodolir i'r bardd yn [[farwnad]] i'r tywysog hwnnw. Gellir bod yn bur sicr mai ar achlysur claddu'r tywysog neu'n fuan wedyn y cyfansoddwyd ei farwnad. Ynddi mae Meilyr yn moli dewrder a haelioni'r brenin ac yn disfrifio ei gyrchoedd a'r brwydrau yr ymladdodd. Cawn hefyd ymdeimlad o'r berthynas agos a fu rhwng y bardd a'i noddwr mewn llinellau fel a ganlyn, sy'n dangos y lle anrhydeddus a roddid i'r bardd yn llys Gruffudd, yn [[Aberffro]]. Yfodd gyda'r brenin o gorn yfed euraidd, yn eistedd ar gadair foethus yn ei ymyl:
:''Yfais gan dëyrn o gyrn eurawg,''
:''Arfodd faedd feiddiad angad weiniawg,''
:''Yn llys Aberffraw, er ffaw ffodiawg,''
:''Bûm o du gwledig yn lleithigawg.''
 
Mae'r ail gerdd yn adanbyddusadnabyddus iawn dan yr enw ''Marwysgafn Meilyr Brydydd'', y [[Marwysgafn|farwysgafn]] gynharaf a gadwyd i ni. Math o gerdd gyffes ydyw. Mae'r bardd yn cyffesu ei bechodau ac yn gofyn maddeuant a lle ym [[Paradwys|Mharadwys]]. Ar ddiwedd y gerdd mae'n gofyn i [[Iesu Grist|Grist]] ei gadw rhag tân [[uffern]] ac i'r [[Duw]] a'i creodd ei adael i orffwys ymhlith beddau'r saint ar [[Ynys Enlli]]:
:''Crist croesddarogan a'm gŵyr, a'm gwarchan,''
:''Rhag uffern affan, wahan westi:''