Cyffur gwrthiselder: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Prozac pills cropped.jpg|bawd|Capsiwlau fluoxetine (Prozac)]]
[[Meddyginiaeth]] [[seiciatrig]] a ddefnyddir i liniaru [[anhwylder tymer|anhwylderau tymer]] yw '''cyffur gwrthiselder''' neu '''wrthiselydd'''. Fe'u defnyddir i drin nifer o [[cyflwr meddygol|gyflyrau]] gan gynnwys [[iselder]] cymedrol i ddifrifol, [[pryder|pryder difrifol]] a [[pwl o banig|phyliau o banig]], [[anhwylder gorfodaeth obsesiynol]], [[poen cronig]], [[anhwylder bwyta|anhwylderau bwyta]], ac [[anhwylder straen ar ôl trawma]].<ref name="diffiniad"/>
 
Fel arfer, cychwynnir triniaeth â [[#Gwrthiselyddion trichylchol (TCA) a chyffuriau cysylltiedig|TCA]] neu [[#Atalyddion aildderbyn serotonin dethol (SSRI)|SSRI]]. Mae'n cymryd rhyw 10 i 14 diwrnod i'r cyffuriau cael effaith, a rhwng chwech ac wyth wythnos iddynt weithio'n llawn.<ref name="diffiniad"/>
 
==Mecanwaith eu heffaith==
Mae cyffuriau gwrthiselder yn newid lefel [[niwrodrawsyrwyr]] yn yr [[ymennydd]], sef cemegau sy'n trosglwyddo signalau o un gell yn yr ymennydd i'r llall. Yn ystod iselder nid yw rhai niwrodrawsyrwyr yn gweithio'n iawn, ac mae cyffuriau gwrthiselder yn cynyddu lefel y niwrodrawsyrwyr actif.<ref name="diffiniad"/>
 
==Mathau==