Agor y brif ddewislen

Newidiadau

No change in size ,  9 o flynyddoedd yn ôl
 
[[Delwedd:Fasces Mussolini-Hitler mark.jpg|200px|bawd|chwith|"Dwy bobl, un ymdrech": Mussolini a Hitler ar [[stamp]] Almaenig.]]
Ceisiodd ymestyn grym yr Eidal a sefydlu ei hawdurdod yn Affrica. Anfonodd fyddin i oresgyn [[Ethiopia]] yn 1935. Yn 1936 ffurfiodd gynghrair gydag [[Adolf Hitler]] a'r [[Natsïaid]] a alwyd yn Echel Rhufain-Berlin. Yn 1939 cipiodd [[Albania]] a phan dorrodd yr [[Ail Ryfel Byd]] allan cyhoeddodd ryfel yn erbyn [[Y Deyrnas Unedig|Prydain]] a [[Ffrainc]] ym Mehefin 1940. Ond roedd y rhyfel yn drychinebus i'r Eidal a chafwyd colledion mawr yng [[Libya]], [[Horn Affrica]] a [[Gwlad Groeg]]. Pan oresgynodd y Cynghreiriaid ynys [[Sisili]] yn 1943, gorfodwyd Mussolini i ymddeol o rym gan Gyngor Mawr y Blaid [[Ffasgaidd]]. Ffoes o Rufain i ogledd yr Eidal lle sefydlodd weriniaeth [[ffasgaidd]] newydd dan nawdd yr Almaenwyr. Cafodd ef a'i fistres [[Clara Petacci]] eu dal gan y partisanwyr a'u dienyddio. Crogwyd eu cyrff mewn sgwar ym [[Milan]] cyn eu claddu. Roedd unbennaeth Mussolini ar ben.
 
== Dolenni allanol ==