Marcus Valerius Martialis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deb (sgwrs | cyfraniadau) B interwiki |
ychwanegiadau |
||
Llinell 3:
==Ei fywyd==
Cafodd Martial ei eni yn
Dychwelodd i Bilbilis yn y flwyddyn [[98]], yn ystod teyrnasiad [[Trajan]], ond erbyn hynny roedd wedi colli nifer o'i noddwyr yn Rhufain a bu rhaid i [[Pliny'r Ieuengaf]] roi arian iddo i dalu am y daith adref. Cafodd groeso yn ei dref enedigol ond er iddo dderbyn nawdd gan [[Marcella]] ac eraill yn Sbaen ei freuddwyd oedd dychwelyd i'r ddinas fawr ar lannau [[Afon Tiber]]. Bu farw yn Bilbilis tua [[104]] O.C. (neu efallai mor hwyr â 120 O.C. yn ôl rhai awdurdodau).
==Ei waith==
Martial a roddodd enedigaeth i'r epigram modern. Ef oedd y cyntaf o'r beirdd clasurol i ymroi yn llwyr i'r epigram fel ffurf lenyddol ynddo'i hun. Nodweddir ei waith gan ddarluniau o foesau llygredig ei oes a synnwyr dychan deifiol. Ond fe'i bernir yn aml am ei ddiffyg difrifoldeb a'i chwaeth aflednais (mae ei waith yn cynnwys cerddi erotig "coch" iawn). Tuedda hefyd i seboni ei noddwyr, yn arbennig yn achos Domitian. Serch hynny mae ei epigramau yn rhoi inni ddarlun bywiog o arferion a moes Rhufain yn y cyfnod hwnnw ac yn werth eu darllen am eu delweddau lliwgar a'u disgrifiadau bachog.
Ac eto ar adegau medrai ysgrifennu ar nodyn gwahanol, megis yn y gyfres fer o gerddi dwys a thyner er cof am ei ferch fach Erotion, a fu farw chwech diwrnod cyn ei chweched penblwydd:
Llinell 19:
*W.C.A. Ker (gol.), ''Martial'' (Llundain, 1934). Yn y gyfres ''The Loeb Classical Library''; y testun Lladin ac aralleiriad Saesneg.
*Henry Nettleship a J.E. Sandys, ''Dictionary of Classical Antiquities'' (Llundain, 1902).
==Cysylltiadau allannol==
*''[http://www.fh-augsburg.de/~harsch/Chronologia/Lspost01/Martialis/mar_spec.html Liber spectaculorum]'' Testun Lladin y ''Liber Spectatculorum''
*''[http://www.fh-augsburg.de/~harsch/Chronologia/Lspost01/Martialis/mar_ep00.html Epigrammata]'' Testun Lladin dewis o epigramau yn y Bibliotheca Augustana
*[http://www.thelatinlibrary.com/martial.html ''Epigrammaton''] Testun Lladin dewis o epigramau, yn ''The Latin Library''
[[Categori:Beirdd]]
|