Afon Elwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
+ en
categori
Llinell 1:
Mae '''Afon Elwy''' yn afon yng ngogledd [[Cymru]] sy'n rhedeg i mewn i [[Afon Clwyd]]. Dywedir yn aml fod tarddiad Afon Elwy ar lethrau Moel Seisog, i'r de-ddwyrain o dref [[Llanrwst]]. Fodd bynnag dim ond o bentref [[Llangernyw]] ymlaen y defnyddir yr enw Afon Elwy. Yn Llangernyw mae tair afon fechan, Afon Cledwen, Afon Collen ac Afon Gallen, yn cyfarfod i ffurfio'r Elwy. Mae'r afon wedyn yn llifo tua'r dwyrain trwy bentref [[Llanfair Talhaiarn]] ac ychydig filltiroedd islaw'r pentref yma mae [[Afon Aled]], sy'n tarddu o [[Llyn Aled|Lyn Aled]] yn ymuno aâ hi.
 
Wedi llifo trwy Bont-newydd, mae'r afon yn troi tua'r gogledd ac yn llifo trwy [[Llanelwy]]. Mae'n ymuno ag Afon Clwyd tua hanner ffordd rhwng Llanelwy a [[Rhuddlan]], ac yn aml gellir gweld dyfroedd y ddwy afon yn llifo ochr yn ochr heb gymysgu am rai milltiroedd.
 
Mae nifer o ogofeydd yn rhan isaf dyffryn Afon Elwy o ddiddordeb archaeolegol mawr, gan eu bod yn cynnwys olion o'r Palaeolithig a chyfnodau mwy diweddar. Ystyrir y rhain yn un o'r grwpiau o ogofeydd pwysicaf ym Mhrydain. Darganfuwyd olion dyn [[Neanderthal]] mewn ogof yn Bont-newydd.
 
[[Categori:Afonydd Cymru]]
 
[[en:River Elwy]]