Afon Llyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B newid cat
cat
Llinell 3:
Mae Afon Llyfni yn tarddu fel Nant Drws y Coed ar lethrau [[Y Garn]] uwchben [[Rhyd-ddu]]. Wedi llifo tua'r gorllewin wrth ochr y ffordd B4418 mae'n cyrraedd [[Llyn Nantlle Uchaf]]. Ar ôl llifo trwy'r llyn mae'r afon yn newid ei henw i Afon Llyfni. Mae'n llifo i lawr [[Dyffryn Nantlle]], gan godi dŵr o'r hen dyllau chwareli sy'n niferus iawn yn yr ardal yma, a llifo heibio [[Talysarn]] a [[Penygroes]]. Mae'n cyrraedd y môr gerllaw [[Pontllyfni]].
 
Yn y gorffennol defnyddid rhai o'r tyllau chwareli i gael gwared o sbwriel diwydiannol o wahanol fathau, a bu pryder fod hwn yn creu [[llygredd]] wrth i ddŵr o'r pyllau hyn lifo i mewn i Afon Llyfni. Mae'n ymddangos nad oes problem gydag ansawdd y dŵr ar hyn o bryd fodd bynnag, ac mae'r Llyfni yn afon boblogaidd gyda physgotwyr.
 
[[Categori:Afonydd Cymru|Llyfni]]
[[Categori:Afonydd]]