Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B i/w
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 1:
[[Delwedd:Titus Jerusalem.jpg|thumb|300px|Bwa Titus yn [[Rhufain]], yn dathlu ei fuddugoliaeth tros yr Iddewon.]]
'''Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain''' neu'r '''Gwrthryfel Iddewig Mawr''' yw'r enw a ddefnyddir am yr ymladd rhwng yr [[Iddewon]] a lluoedd [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] yn [[Judaea]] a [[Galilea]] rhwng [[66]] a [[73]] O.C..
 
'''Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain''' neu'r '''Gwrthryfel Iddewig Mawr''' yw'r enw a ddefnyddir am yr ymladd rhwng yr [[Iddewon]] a lluoedd [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] yn [[Judaea]] a [[Galilea]] rhwng [[66]] a [[73]] O.C.. Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer y rhyfel yw gawith [[Flavius Josephus]], ''Rhyfeloedd yr Iddewon''.
 
Wedi cyfnod o hanner-annibyniaeth fel teyrnas yn ddibynnol ar Rufain dan [[Herod Fawr]], daeth Judaea yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn [[6}} O.C.. Rheolid y dalaith gan raglaw (''[[procurator]]'') Rhufeinig. Dros y blynyddoedd, bu llawr o dyndra rhwng yr Iddewon a Rhufqain, yn enwedig pan geisiau Rhufain benodi [[Archoffeiriad]] newydd, neu pan arddangosid delwau, oedd yn groes i gredoau [[Iddewiaeth]], gan y fyddin Rhufeinig.
 
Dechreuodd y rhyfel pan gymerodd y rhaglaw [[Gessius Florus]], ar gais yr ymerawdwr [[Nero]], swm mawr o arian o drysorfa [[Teml Jerusalem]]. Yn [[66]], dechreuodd gwrthryfel yn [[Caesarea (Maritima)|Caesarea]], wedi i Roegwyr lleol ymosod at [[synagog]]. Lledaenodd yr ymladd, a gorchfygwyd Gessius Florus wrth iddo geisio encilio o [[Jerusalem]]. Gyrrodd llywodraethwr [[Syria]] fwy o filwyr, ond gorchfygwyd hwy hefyf.
 
Gyrroedd yr ymerawdwr Nero fyddin o 60,000 dan [[Vespasian]] i roi diwedd ar y gwrthryfel. Erbyn [[68]], roedd Vepasian wedi concro Galilea, ac roedd yr Iddewon wedi ymgasglu yn Jerusalem. Wedi marwolaeth Nero yn [[68]], cyfarchwyd Vespasian fel ymerawdwr gan ei filwyr. Gadawodd y gwaith o ddelio a'r gwrthryfel i'w fab, [[Titus]].
 
Gwarchaeodd Titus a'i filwyr ar Jeriwsalem, ac wedi ymladd caled, concrodd y ddinad ym mis Awst [[70. Llosgwyd y deml, a lladdwyd tua 100,000 o'r amddiffynwyr. Parhaodd y rhyfel nes i'r Rhufeiniaid gipio caer [[Masada]] yn [[73]].
 
[[Categori:Hanes Iddewig]]