Vespasian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 17:
[[Delwedd:020_Vespasian.jpg|thumb|left||Delwedd Vespasian fel ymerawdwr]]
 
Pan ddaeth [[Nero]] yn ymerawdwr, aeth a Vespasian gydag ef ar daith trwy [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]] i roi cyfle i'r [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] wrando ar yr ymerawdwr yn canu. Yn anffodus syrthiodd Vespasian i gysgu yn ystod un o berfformiadau Nero, a chollodd ei ffafr am gyfnod. Yn ddiweddarach dewisodd Nero ef i ddelio a [[Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain|gwrthryfel yr Iddewon]] yn nhalaith [[Judea]]. Yn dilyn hunanladdiad Nero yn 68, lladdwyd ei olynydd [[Galba]] yn 69 a chyhoeddwyd [[Otho]] yn ymerawdwr, cyn iddo yntau gael ei ddisodli gan [[Vitellius]]. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw [[Syria]], Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Judea a Syria Vespasian fel ymerawdwr. Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar [[Afon Donaw]] dan [[Marcus Antonius Primus]], a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Yn [[Ail frwydr Bedriacum|ail frwydr Bedriacum]] gorchfygodd byddin Primus lengoedd Vitellius, cyn mynd ymlaen i Rufain a lladd Vitellius ei hun.
 
Yn wahanol i'r tri ymerawdwr o'i flaen, llwyddodd Vespasian i'w sefydlu ei hun yn gadarn ar yr orsedd. Teyrnasodd am ddeng mlynedd, a dilynwyd ef gan ei fab hynaf [[Titus]]. Vespasian oedd yn gyfrifol am adeiladu'r [[Colisewm]] yn Rhufain.