Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
'''Rhyfel cyntaf yr Iddewon a Rhufain''' neu'r '''Gwrthryfel Iddewig Mawr''' yw'r enw a ddefnyddir am yr ymladd rhwng yr [[Iddewon]] a lluoedd [[yr Ymerodraeth Rufeinig]] yn [[Judaea]] a [[Galilea]] rhwng [[66]] a [[73]] O.C.. Y ffynhonnell bwysicaf ar gyfer y rhyfel yw gawith [[Flavius Josephus]], ''Rhyfeloedd yr Iddewon''.
 
Wedi cyfnod o hanner-annibyniaeth fel teyrnas yn ddibynnol ar Rufain dan [[Herod Fawr]], daeth Judaea yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig yn [[6}}]] O.C.. Rheolid y dalaith gan raglaw (''[[procurator]]'') Rhufeinig. Dros y blynyddoedd, bu llawr o dyndra rhwng yr Iddewon a Rhufqain, yn enwedig pan geisiau Rhufain benodi [[Archoffeiriad]] newydd, neu pan arddangosid delwau, oedd yn groes i gredoau [[Iddewiaeth]], gan y fyddin Rhufeinig.
 
Dechreuodd y rhyfel pan gymerodd y rhaglaw [[Gessius Florus]], ar gais yr ymerawdwr [[Nero]], swm mawr o arian o drysorfa [[Teml Jerusalem]]. Yn [[66]], dechreuodd gwrthryfel yn [[Caesarea (Maritima)|Caesarea]], wedi i Roegwyr lleol ymosod at [[synagog]]. Lledaenodd yr ymladd, a gorchfygwyd Gessius Florus wrth iddo geisio encilio o [[Jerusalem]]. Gyrrodd llywodraethwr [[Syria]] fwy o filwyr, ond gorchfygwyd hwy hefyf.