Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 28:
Lleolir y dref lle mae'r afonydd Rheidol ac Ystwyth ill dwy yn aberu, ar yr arfordir gorllewinol Cymru. Er bod yr enw yn awgrymu fel arall, dim ond afon Rheidol sy’n rhedeg drwy’r dref. Ers i’r harbwr gael ei ailadeiladu, mae afon Ystwyth bellach yn rhedeg o gwmpas ymyl deheuol y dref.
 
Mae gan Aberystwyth pier a glan môr sy’n estyn o Graig-lais ar ben gogleddol y promenâd, i geg yr harbwr yn y de. Mae dau ddarn o draeth, sy’n cael eu holltigwahanu gan bentir y castell.
 
Yn ei hanfod, mae’r dref yn cynnwys nifer o ardaloedd gwahanol: Canol y dref, Llanbadarn Fawr, Waunfawr, Llanbadarn, Trefechan a Phenparcau (yr ardal fwyaf poblog)