David Thompson (mapiwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 16:
Roedd '''David Thompson''' ([[30 Ebrill]] [[1770]] – [[10 Chwefror]] [[1857]]) yn fasnachwr ffwr ac yn [[map|fapiwr]] a weithiai yng Ngogledd America, ac a oedd o dras [[Cymru|Gymreig]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8354658.stm BBC Wales news report]. Adalwyd 15 Chwefror 2015.</ref>
 
Wedi i'w rieni gyrraedd Llundain, o Gymry, cafodd ei eni yn [[Westminster]]. Bu farw ei dad pan oedd yn ddwy oed ac fe'i magwyd yn y ''Grey Coat Hospital', ble y llwyddodd mewn [[mathemateg]] a dysgodd y grefft o fforio (neu 'fordwyo'). Yn 14 oed aeth i weithio i Ganada gyda'r ''The Hudson's Bay Company (HBC)''. Ym Mai 1784, glaniodd yn [[Churchill]]. Ym mis Hydref 1789,cafodd o wahoddiad i fynd ar daith i ardal [[Athabasca]] efo [[Philip Turnor ]]a [[George Hudson]]. Roedd Turnor tirfesurydd swyddogol Cwmni Bae Hudson a dysgodd Thompson ei grefft. Ym Medi 1792 aeth o i fyny [[Afon Churchill]], yn chwilio am ffordd ferrach i Athabasca. Ar ôl treulo 3 blynedd yn teithio [[Manitoba]], aeth o yn ôl i fyny Afon Churchill ac [[Afon Carw]], i [[Llyn Wollaston|Lyn Wollaston]] wedyn i fyny [[Afon Ddu]] i [[Llyn Athabasca|Lyn Athabasca]].
 
Yng ngaeaf 1796-7, penderfynnodd Thompson adael Cwmni Bae Hudson oherwydd eu pwyslais ar farchnata, ac ymunodd â [[Cwmni'r Gogledd-Orllewin|Chwmni'r Gogledd-Orllewin]]. Cyrhaeddodd eu pencadlys yn [[Grand Portage]], ar lan [[Llyn Superior]] ar 22 Gorffennaf 1797. Gadawodd Grand Portage ar 9 Awst 1797 ar daith i sefydlu lleoliadau manwl gorsafoedd masnachu'r cwmni,, yn dilyn Cytundeb Jay rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau. Roedd hi'n rhan o'r Cytundeb bod rhaid i orsafoedd masnachu Prydeinig yn yr Unol Daleithiau cau. Aeth o i lawr [[Afon Lawiog]] i [[Llyn Glawiog|Lyn Glawiog]], wedyn [[Llyn y Coedwigoedd]] a [[Llyn Winnipeg]]. Aeth o i fyny [[Afon Dauphin]] i [[Llyn Manitoba|Lyn Manitoba]], wedyn [[Llyn Winnipegosis]]. Treuliodd o 2 fis yn arolygu [[Afon Carw Coch]] ac [[Afon Assiniboine]].