David Thompson (mapiwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dafyddt (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 16:
Roedd '''David Thompson''' ([[30 Ebrill]] [[1770]] – [[10 Chwefror]] [[1857]]) yn fasnachwr ffwr ac yn [[map|fapiwr]] a weithiai yng Ngogledd America, ac a oedd o dras [[Cymru|Gymreig]].<ref>[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/8354658.stm BBC Wales news report]. Adalwyd 15 Chwefror 2015.</ref>
Yng ngaeaf 1796-7, penderfynnodd Thompson adael Cwmni Bae Hudson oherwydd eu pwyslais ar farchnata, ac ymunodd â [[Cwmni'r Gogledd-Orllewin|Chwmni'r Gogledd-Orllewin]]. Cyrhaeddodd eu pencadlys yn [[Grand Portage]], ar lan [[Llyn Superior]] ar 22 Gorffennaf 1797. Gadawodd Grand Portage ar 9 Awst 1797 ar daith i sefydlu lleoliadau manwl gorsafoedd masnachu'r cwmni,, yn dilyn Cytundeb Jay rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau. Roedd hi'n rhan o'r Cytundeb bod rhaid i orsafoedd masnachu Prydeinig yn yr Unol Daleithiau cau. Aeth o i lawr [[Afon Lawiog]] i [[Llyn Glawiog|Lyn Glawiog]], wedyn [[Llyn y Coedwigoedd]] a [[Llyn Winnipeg]]. Aeth o i fyny [[Afon Dauphin]] i [[Llyn Manitoba|Lyn Manitoba]], wedyn [[Llyn Winnipegosis]]. Treuliodd o 2 fis yn arolygu [[Afon Carw Coch]] ac [[Afon Assiniboine]].
Llinell 22:
Ar 28 Tachwedd 1797, dechreuodd gais i ddarganfod pentrefi'r llwyth [[Mandan]]ac wedi eu darganfod nhw ar lannau [[Afon Missouri]]. Dechreuodd daith arall ar 28 Chwefror 1798. Arolygodd weddill dyffryn Assiniboine hyd at The Forks, sydd erbyn heddiw [[Winnipeg]]. Aeth i fyny [[Afon Goch]] ac [[Afon Lyn Coch]] i [[Llyn Coch|Lyn Coch]]. Meddyliodd fod o wedi darganfod ffynhonell [[Afon Mississippi]] yn [[Llyn Turtur]], ond roedd o'n anghywir. Aeth o ymlaen i [[Llyn Superior|Lyn Superior]] a mapiodd ei lannau deheuol hyd at [[Sault Saint Marie]]. Cyrhaeddodd Grand portage eto ar 7 Mehefin 1798.
Ym Mawrth 1799 fforiodd o ogledd [[Alberta]]. Cyrhaeddodd o Lac Ile-à-la-Crosse eto ym Mai, lle priododd o Charlotte Small. Aethon nhw ar daith efo'u gilydd yn aml wedyn, ac aethon nhw i [[Montreal]] ar ôl ei ymddeuliad; cawson nhw 13 o blant.
Ym Mai 1802, aeth o i lawr Afon Saskatchewan i
Dechreuodd o daith – efo'i deulu a teithwyr eraill o'r cwmni, ar draws y Mynyddoedd [[Rockies]]. Aethant i fyny Afon Ogledd Saskatchewan ac ar draws Bwlch Howse. Disgynnodd Afon Blueberry a chyraeddasant [[Afon Columbia]] ar 30 Mehefin 1807]]. Oherwydd bod yr afon yn llifo i'r Gogledd-ddwyrain yno, na sylweddodd o bod Afon Columbia oedd hi. Aethant i fyny'r afon i Lyn Windermere a treuliasant y gaeaf yn masnachu efo'r llwyth Kootenay. Treuliodd o'r blynyddoedd canlynol yn teithio'r ardal ac yn croesi'r Rockies, yn mynd â ffyrrau yn ôl i'r dwyrain. Ar diwedd 1811, croesodd y Rockies trwy [[Bwlch Athabasca|Fwlch Athabasca]] lle saif [[Jasper, Alberta]] heddiw. Cyrhaeddodd Afon Columbia ar 18 Ionawr 1811.
Roedd hi'n anodd anfon ffyrrau yr holl ffordd dros y Rockies, felly aeth Thompson ac eraill i lawr Afon Columbia ac wedi cyrraedd y [[Cefnfor Tawel]] ar 3 Gorffennaf 1811. Dau fis yn gynharach, cyrhaeddodd llong yr Aber o'r cefnfor, ac wedi sefydlu gorsaf masnachu yn [[Astoria, Oregon]] gan Gwmni Pacific Fur. Roedden nhw wedi cael cynllun i gydweithio efo Cwmni'r Gogledd Orllewin, ond na chyflunwyd y gytundeb. Prynwyd yr orsaf masnachu gan y Cwmni'r Gogledd Orllewin ym 1813 am $40,000.
|