Britannia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 7:
Dros y blynyddoedd nesaf, ymestynnwyd y dalaith i ran helaeth i'r ynys; gyda'r llywodraethwr [[Agricola]] yn ymgyrchu ymhell i ogledd [[yr Alban]]. Yn y blynyddoedd wedyn, enciliodd y Rhufeiniaid o'r gogledd. Ar rai adegau, [[Mur Antoninus]] yn yr Alban oedd ffîn y dalaith, ond ran amlaf [[Mur Hadrian]] yng ngogledd Lloegr oedd y ffîn.
 
Yn nechrau'r [[3edd ganrif]], rhannwyd Britannia yn ddwy dalaith, [[Britannia Superior]] a [[Britannia Inferior]]. Yn ddiweddarach, sefydlodd [[Diocletian]] bedair talaith, wedi eu cyfuno yn ''Diocese'' y Prydeiniau: [[Maxima Caesariensis]] yn y de-ddwyrain gyda’r brifddinas yn [[Llundain]], [[Flavia Caesariensis]] yn y dwyrain gyda [[Lincoln]] fel prifddinas, [[Britannia Secunda]] yn y gogledd gyda’r brifddinas yn [[Efrog]] a [[Britannia Prima]] yn y gorllewin, yn cynnwys [[Cymru]] heddiw, gyda [[Cirencester]] fel prifddinas. Bu hefyd bumed talaith, [[Valentia]], am gyfnod byr ymhellach i’r gogledd. Tua [[408]] daeth gweinyddiaeth sifil Rhufain i ben ar yr ynys.
 
Ym mlynyddoedd olaf yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, cododd nifer o gadfridogion o'r dalaith i hawlio'r orsedd. Yn [[383]], aeth [[Macsen Wledig]] (Magnus Maximus]], a byddin o Brydain i geisio ei orseddu ei hun fel ymerawdwr. Yn [[407]], hawliodd [[Cystennin III]] yr orsedd, ac aeth yntau a byddin o Brydain i [[Gâl]] i ymladd yn erbyn yr ymerawdwr [[Honorius]]. Ymddengys iddo fynd a'r rhan fwyaf o'r milwyr Rhufeinig oedd yn weddill ym Mhrydain, gan adael y dalaith yn ddiamddiffyn. Tua [[408]] daeth gweinyddiaeth sifil Rhufain i ben ar yr ynys.
 
==Gweler hefyd==