Geiseric: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Brenin llwyth Almaenig y Fandaliaid oedd '''Geiseric''' (bu farw 25 Ionawr 477). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid. Daeth i'...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 07:38, 24 Rhagfyr 2009

Brenin llwyth Almaenig y Fandaliaid oedd Geiseric (bu farw 25 Ionawr 477). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid.

Daeth i'r orsedd yn 427. Yn 429 cymerodd fantais o anghydfod yn yr Ymerodraeth Rufeinig i groesi i Ogledd Affrica gyda 80,000 o wŷr. Gosodasanr warchae ar ddinas Hippo Regius, lle bu Sant Awstin farw yn Awst 430 yn ystod y gwarchae. Gwnaed heddwch a'r Rhufeiniaid am gyfnod, ond yn 439 cipiodd Geiseric ddinas Carthago.

Tyfodd Teyrnas y Fandaliaid a'r Alaniaid yn deyrnas gref yn ystod teyrnasiad Geiseric. Yn 455 cipiwyd dinas Rhufain ganddynt. Dywedir i'r Pab Leo Fawr gyfarfod Geiseric tu allan i'r ddinas a'i berswadio i beidio niweidio'r trigolion, ond anrheithiwyd y ddinas. Bu farw Geiseric yn 477, a dilynwyd ef gan ei fab Huneric.