Geiseric: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
i/w
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Brenin llwyth Almaenig y [[Fandaliaid]] oedd '''Geiseric''' (butua farw[[389]] - [[25 Ionawr]] [[477]]). Ystyrir mai ef oedd y mwyaf o frenhinoedd y Fandaliaid.
 
Roedd Genseric yn fab i'r brenin [[Godigisel]], a ganed ef tua 389, mae'n debyg yn ardal [[Llyn Balaton]] yn [[Hwngari]]. Daeth i'r orsedd yn 427 neu 428. Yn [[429]] cymerodd fantais o anghydfod yn yr Ymerodraeth Rufeinig i groesi i Ogledd Affrica gyda 80,000 o wŷr. Gosodasanr warchae ar ddinas [[Hippo Regius]], lle bu [[Awstin o Hippo|Sant Awstin]] farw yn Awst 430 yn ystod y gwarchae. Gwnaed heddwch a'r Rhufeiniaid am gyfnod, ond yn [[439]] cipiodd Geiseric ddinas [[Carthago]].
 
Tyfodd Teyrnas y Fandaliaid a'r Alaniaid yn deyrnas gref yn ystod teyrnasiad Geiseric. Yn [[455]] cipiwyd dinas [[Rhufain]] ganddynt. Dywedir i'r Pab Leo Fawr gyfarfod Geiseric tu allan i'r ddinas a'i berswadio i beidio niweidio'r trigolion, ond anrheithiwyd y ddinas. Bu farw Geiseric yn 477, a dilynwyd ef gan ei fab [[Huneric]].