Annaba: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Luke~cywiki (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Dinas yng ngogledd-ddwyrain [[Algeria]] yw '''Annaba''' ([[Arabeg]]: عنابة ʿAnnaba). Ei hen enw oedd '''Hippo''', yn ddiweddarch '''Hippo Regius''', yna '''Bône''' pan oedd yr ardal dan reolaeth [[Ffrainc]]. Roedd y boblogaeth yn [[2008]] yn 207,617.
 
Saif ar yr arfodir, yn agos arat y ffîn a [[Tunisia]], ac mae'n brifddinas [[Talaith Annaba]]. Ceir prifysgol yma, oedd aâ thua 40,000 o fyfyrwyr yn [[2004]], a maes awyr rhyngwladol. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu tua 1200 CC. Yn ystod y [[Rhyfel Pwnig Cyntaf]], cipiwyd hi gan y Massyliaid dan Gala, a daeth yn brifddinas ei fab, [[Masinissa]], gan gael yr ychwanegiad "Regius" at ei henw.
 
Mae'r ddinas yn enwog fel y ddinas lle'r oedd [[Awstion o hippo]] yn [[esgob]] o [[396]] hyd [[430]] OC. Yn [[431]], cipiwyd y ddinas gan y [[fandaliaid]] dan [[Geiseric]], a bu'n brifddinas eu teyrnas hyd nes iddynt gipio [[Carthago]] wyth mlynedd yn ddiweddarach. Yn [[534]], daeth yn rhan o'r [[Ymerodraeth Fysantaidd]], yna yn [[647]] copiwydcipiwyd hi gan yr [[Arab]]iaid.
 
Yn yr [[11eg ganrif]], sefydlodd yr Arabiaid ddinas newydd gerllaw yr hen ddinas, dan yr enw ''Beleb el-Anab''. Yn [[1830]], newidiwyd ei henw i ''Bône'' gan y Ffrancwyr.