Plwyf Silian yng Ngheredigion a'r Rhyfel Byd Cyntaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Hanes dynion dewr plwyf Silian yng Ngheredigion a'r Rhyfel Byd Cyntaf.
 
angen dolennau; dim enw awdur, categoriau ayb
Llinell 1:
{{Dim-ffynonellau}}
Plwyf Silian a’r Rhyfel Byd Cyntaf
 
Eleni ar Ddiwrnod y Cadoediad fe fyddwn yn cofio aberth rhai o drigolion Silian yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a ddaeth i ben union ganrif yn ôl ar Dachwedd 11eg 1918. Tu fewn i eglwys Silian ar un o furiau’r adeilad hyfryd yma, ceir garreg goffa i gofio’r aberth eithaf gan y Preifat Thomas Parry o’r ‘Royal Irish Fusiliers’ a chafodd ei ladd yn Gallipoli, Dardanelles ar Awst 15fed yn 36 mlwydd oed. Dim ond 13 Cymro yn unig oedd yn aelod o’r bataliwn yma.
Llinell 7:
Roedd Thomas yn hen, hen ewythr i’r awdures Miss Eirian Jones o Langeitho ac yn wir fel teyrnged iddo, ym mis Awst 2015 ymgymerodd â’r daith hynod emosiynol i Dwrci er mwyn ymweld â’r safle lle collodd ei fywyd mor drychinebus, union ganrif yn ôl.
 
 
Roedd ei hen, hen dad-cu Evan Parry hefyd yn ymladd gyda’r ‘Royal Welsh Fusiliers’ ac fe ymddangosodd erthygl ym mhapur newydd ‘Y Llan’ yn cyhoeddi fod Sarjant Evan Parry wedi derbyn croeso mewn cyngerdd arbennig yn ysgol Silian ar nos Iau 22ain o Dachwedd 1917, pan ddychwelodd i’w blwyf genedigol am yr ail waith yn ystod y Rhyfel. Cafodd ei longyfarch am ennill y Fedal Filwrol a chyflwynwyd nodyn punt iddo. Cafodd y gynulleidfa ei diddanu gan gantorion lleol, yn cynnwys rhai o blwyf Betws Bledrws.
Llinell 14 ⟶ 13:
 
Daeth trychineb arall i ran y plwyf pan fu farw Watkin Davies, sef unig fab Coedparc sydd yn ffinio a phlwyf Silian. Wedi ymladd yn y dwyrain pell cafodd ei glwyfo ym Mrwydr y Somme ar Fedi 21ain 1918 a bu farw mewn ysbyty carcharorion yn Cologne, Yr Almaen, pedwar diwrnod ar ôl y Cadoediad. Roedd yn hen, hen ewythr i Aelod Cynulliad Ceredigion Miss Elin Jones ac mae’r hanes llawn yn ddiddorol ac yn hynod o drist. Yn fras, fel mab fferm nid oedd disgwyl iddo ymuno â’r fyddin, ond roedd ei dad yn teimlo y byddai’n elwa o’r profiad gan ei fod wedi cael ei sbwylio ychydig gan ei chwiorydd. Yn anffodus ni ddychwelodd fyth i ymgymryd â ffermio Coedparc.
 
Aled Morris Evans