William Rees (Gwilym Hiraethog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Gwilym Hiraethog wedi'i symud i William Rees (Gwilym Hiraethog): cysondeb (gweler Rhestr awduron Cymraeg (1600-heddiw))
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ganwyd '''WilliamsWilliam Rees''' ([[8 Tachwedd]] [[1802]]- 8 Tachwedd [[1883]]), neu '''Gwilym Hiraethog''' fel y'i adnabyddir, yn Chwibren Isaf, fferm wrth droed Mynydd Hiraethog ym Mhlwyf [[Llansannan]]. Er bod ei fam yn dod o dras uchel roedd ei deulu yn dlawd ac erbyn iddo briodi yn 22 mlwydd oed roedd yn was fferm. Dyna fu ei alwedigaeth tan iddo gael ei alw i weinidogaethu gyda'r [[Annibynwyr]] ym Mostyn yn 1831. Fe ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1875 a byw hyd at ei farwolaeth yng Nghaer.
 
Er iddo gael ei fagu gyda'r Trefnyddion Calfinaidd fe ymunodd â'r Annibynwyr wedi iddynt gychwyn achos yn Llansannan yn 1828. Fe'i alwyd i Lôn Swan, [[Dinbych]] yn 1837, yna ymlaen i'r Tabernacl, [[Lerpwl]] (1843) yna i Salem yn yr un dref (1853) a diweddu ei yrfa fel gweinidog yn Grove Street, Lerpwl wedi iddo symud yno yn 1867.