Allectus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Allectus''' yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain am gyfnod. Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i Carausius, oe...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 21:28, 27 Rhagfyr 2009

Roedd Allectus yn uchel-swyddog Rhufeinig a lwyddodd i gipio grym ym Mhrydain am gyfnod.

Gweithredai Allectus fel gweinidog cyllid i Carausius, oedd wedi cipio grym ym Mhrydain a rhan o Gâl am rai blynyddoedd. Yn 293 llwyddodd Constantius Chlorus, y Cesar yn y gorllewin, i gymeryd gogledd Gâl oddi wrtho a'i had-uno a'r ymerodraeth. Yr un flwyddyn llofruddiwyd Carausius gan Allectus, a ddaeth yn rheolwr Prydain yn ei le.