TWW: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
rhoi'r logo yn y wybodlen
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Darlledwyd am y tro cyntaf am 4:45 pm ar 14 Ionawr 1958 o stiwdio ym [[Pontcanna|Mhontcanna]], [[Caerdydd]], gyda rhaglen chwarter awr yng nghwmni'r Arglwydd Derby, Syr [[Ifan ab Owen Edwards]], Bruce Lewis ac Alfred Francis. Roedd gan y sianel raglen Gymraeg, sef "Amser Te", a rhaglen o gerddoriaeth Gymreig, "Gwlad y Gân".
 
Dechreuodd yr etholfraintmasnachfraint ar 26 Hydref 1956 a gorffennodd yn 1968 pan gollodd TWW yr etholfraint i gwmni [[William David Ormsby-Gore, 5fed Arglwydd Harlech|Arglwydd Harlech]].
 
Am y 6 mlynedd cyntaf, un trosglwyddydd oedd gan y cwmni, ond ymunodd y cwmni â WWN o ogledd a gorllewin Cymru yn [[1964]] a manteisiwyd ar eu trosglwydyddion nhw, gan ddarlledu i bron y cyfan o Gymru. Roedd y sianel yn ddwyieithog hyd at wanwyn 1968 pan ddaeth TWW i ben ac fe ddechreuodd gwasanaeth “ITSSWW” (''Independent Television Service South Wales and West'') am gyfnod byr. Ar [[20 Mai]] [[1968]], dechreuodd sianel newydd Harlech ([[HTV]]).