Gŵyl Mabsant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B iaith
dolen Cwm Eithin
Llinell 1:
'''Gŵyl Mabsant''' (neu '''Gwylmabsant''', '''Gŵyl Fabsant'''<ref>Cwm Eithin gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.</ref>) yw'r ŵyl a gysylltid â sant [[eglwys]] [[plwyf|blwyf]] yng [[Cymru|Nghymru]], yn arbennig yn y cyfnod cyn y [[Diwygiad Protestannaidd]] er mai gŵyl [[pagan|baganaidd]] ydoedd yn wreiddiol yn ôl Hugh Evans awdur "[[Cwm Eithin"]].
 
Yr oedd yr Ŵyl Mabsant yn un o achlysuron [[cymdeithas]]ol pwysicaf y flwyddyn i'r plwyfolion. Roedd yn cael ei dathlu â chanu a dawnsio a dirywiai weithiau'n rhialtwch afreolus. Cynhelid ffeiriau mewn rhai plwyfi a byddai'r dathlu'n parhau am wythnos weithiau, er mai un diwrnod arbennig oedd yr ŵyl ei hun. Canolbwynt yr ŵyl oedd [[llan]] yr eglwys leol fel arfer.