Sir Ddinbych: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Daearyddiaeth: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
Llinell 16:
Yn yr [[Oesoedd Canol]] roedd yr ardal yn rhan o'r [[Berfeddwlad]]. Bu dan reolaeth [[teyrnas Gwynedd]], fel rhan o [[Gwynedd Is Conwy|Wynedd Is Conwy]], am gyfnodau hir yn yr Oesoedd Canol. Dyma'r cyfnod pan godwyd adeiladau eglwysig fel [[Abaty Glyn y Groes]] a chofebion fel [[Piler Eliseg]]. Codwyd sawl castell gan y Cymry hefyd, e.e. [[Tomen y Rhodwydd]]. Yn dilyn goresgyniad [[Tywysogaeth Cymru]] gan y Saeson yn 1282-1283, rhanwyd yr ardal rhwng arglwyddi'r [[Y Mers|Mers]]; y mwyaf o'r arglwyddiaethau hyn oedd [[Arglwyddiaeth Dinbych]].
 
Cafodd yr [[Sir Ddinbych (hanesyddol)|hen Sir Ddinbych]] [[Siroedd Cymru cyn ad-drefnu 1974|ei chreu]] yn [[1536]]. Parhaodd fel sir weinyddol hyd adrefnu llywodraeth leol yn 1972. Roedd yn ffinio â [[Sir Gaernarfon]] a [[Sir Feirionnydd]] i'r gorllewin, [[Sir Drefaldwyn]] i'r de, a [[Sir y Fflint]], a [[Sir Gaer]] a [[Sir Amwythig]] (y ddwy olaf yn [[Lloegr]]) i'r dwyrain. Daeth yn rhan o sir [[Clwyd]].
 
Pan ad-drefnwyd llywodraeth leol unwaith eto, yn 1996, diddymwyd Clwyd fel sir weinyddol a chrëwyd y Sir Ddinbych bresennol, sy'n llai na'r hen sir o'r un enw ac yn cynnwys rhan o'r hen Sir y Fflint.