Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "C.P.D. Inter Caerdydd"

Lleihawyd o 35 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
manio a newid url using AWB
B (manio a newid url using AWB)
 
Lliwiau cartref
Clwb [[pêl-droed]] oedd '''Inter Caerdydd''' (neu, '''Inter Cardiff F.C.'''). Roeddynt yn chwarae ac yn llwyddiannus yn ystod degawd gyntaf [[Uwch Gynghrair Cymru]]. Sefydlwyd y clwb fel Inter Caerdydd 1990, trwy uno A.F.C. Cardiff a Sully F.C, newidiodd y clwb ei henw i Inter CabelTel ym 1996 cyn mynd yn ôl i'w enw gwreiddiol dair blynedd yn ddiweddarach.
 
Nid gyfieithwyd enw'r clwb fyth i ''Rhyng Caerdydd''. Gellir tybio fod enw'r clwb Eidaleg enwog, Inter Milan, yn ysbrydoliaeth i'r enw, daeth pêl-droed Eidalaidd yn adnabyddus i bobl Cymru yn yr 1980au a'r 1990au yn rannol oherwydd llwyddiant rhaglenni fel [[Sgorio]] i ddarlledu uchafbwyntiau o gemau'r [[Seria A]].
 
==Datblygu Tîm Prifysgol Metropolitan Caerdydd==
Er mwyn deall yr hyn ddigwyddodd i ran o waddol Inter Caerdydd, rhaid deall iddi ymuno gyda thîm yr hyn ddaeth yn Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Roedd tîm Coleg Addysg Caerdydd yn datblygu (bellach [[Prifysgol Fetropolitan Caerdydd|Prifysgol Fetropolitan Caerdydd]]). Aeth y tîm trwy gyfres o newidiadau enwau, gan adlewyrchu newidiadau enw'r sefydliad a gynrychiolwyd ganddo. Gelwid y tîm yn wreiddiol fel Coleg Addysg Caerdydd (''Cardiff College of Education F.C.'') yna yn Sefydliad De Morgannwg (''South Glamorgan Institute F.C.'') yn 1979; Sefydliad Addysg Uwch Caerdydd (''Cardiff Institute of Higher Education F.C.'') yn 1990 ac UWIC ym 1996.
 
Yn dilyn tymor gwael penderfynwyd uno gydag Athrofa Prifysgol Cymru, tîm pêl-droed dynion Caerdydd, neu UWIC am gyfnod byr, a ffurfio clwb newydd, UWIC Inter Caerdydd A.F.C. Parhaodd enw Inter Caerdydd tan y tymor 2008-09 cyn iddo gael ei ollwng, gan adael y tîm i barhau o 2009 i 2010 fel U.W.I.C. Cafodd y Sefydliad ei hun newid enw yn 2012, ac yn dilyn siwt, felly wnaeth y tîm, yn dod yn [[C.P.D. Prifysgol Met Caerdydd]].
===Cynghrair===
*'''[[Uwch Gynghrair Cymru|Cynghrair Cymru]]{{Ref label|LOW|a|a}}'''
**Ail: 1992–93, 1993–94, 1996–97, 1998–99
 
===Cwpanau===
**Pencampwyr: 1998–99
*'''[[Cwpan Cynghrair Cymru]]'''
**Pencampwyr: 1996–97
 
1999-2000 - Aethant i chwarae yn [[Cwpan Premier CBD Cymru]] (yr ''FAW Premier Cup'') oedd yn cynnwys timau o Uwch Gynghrair Cymru a goreuon timau Cymru oedd yn chwarae yn Lloegr. Ond methasant a pasio'r cymal grŵp.