Yishuv: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 39:
'''Sefydlu Aneddiadau Newydd''' - Yn wahanol i'r Hen Yishuv a gadwau at 'drefi hanesyddol' Israel - Jerwsalem, Tiberias, Safed a Hebron, aeth aelodau'r Yishuv Newydd ati'n strategol i greu aneddiadau newydd sbon gan brynu tir corsiog neu diffaith y amaethu neu sefydlu trefi newydd. Roedd llawer o'r gwladychwyr newydd wedi eu hysbrydoli a threfnu drwy fudiad [[Chofefei Tzion]].
 
Sefydlodd aelodau'r Yishuv newydd maestrefi y tu allan i furiau hanesyddol Jerwsalem a sefydlwyd y ffermydd Moshaf yr aneddiad amaethyddol pwrpasol gyntaf ym Mhalesteina a gyda hynny dechrau ar draddodiad a roddodd sail i sefydlu'r Wladwriaeth Iddewig. SefydlwydAilsefydlwyd tref gyntaf pwrpasol yr Yishuv, [[Petach Tikva|Petach Ticfa]], yn ystod1883 yyn cyfnoddilyn yma.ei sefydlu yn 1878 a'i fethiant dwy flynedd wedyn.
 
'''Iaith''' - Tra siaradai aelodau'r Hen Yishuv amrywiaeth o ieithoedd gan ddibynnu ar o ba wlad y daethant yn wreiddiol a gan ddefnyddio amrywio o ieithoedd i gyfathrebu gyda'i gilydd, ymwthiau aelodau'r Yishuv Newydd gyda'r arfer yma ac aethant ati, bron yn unfrydol (roedd cefnogaeth i'r iaith Almaeneg neu Iddeweg fel ieithoedd swyddogol i'r Yishuv), i feithrin yr iaith [[Hebraeg]] fel unig iaith yr Yishuv. Roedd pobl fel [[Eliezer Ben-Yehuda]] yn ffigwr symbolaidd yn y mudiad yma.