C.P.D. Tref Bwcle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

clwb pêl-droed
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Clwb pêl-droed o dref Bwcle, Sir Y Fflint yw '''Clwb Pêl-droed Tref Bwcle''' (Saesneg: ''Buckley Town Football Club'') sy'n chwarae yng...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 15:54, 26 Tachwedd 2018

Clwb pêl-droed o dref Bwcle, Sir Y Fflint yw Clwb Pêl-droed Tref Bwcle (Saesneg: Buckley Town Football Club) sy'n chwarae yng Nghynghrair Undebol Huws Gray, sef prif adran gogledd Cymru ac ail reng pyramid pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Ffurfwyd y clwb yn 1977 [1] ac maent yn chwarae eu gemau cartref ar faes Globe Way.

Pêl-droed yn Bwcle

Roedd sawl clwb pêl-droed i'w gael yn Bwcle ar ddiwedd y 19fed ganrif gyda Bwcle Victoria, Bwcle Engineers a Tref Bwcle i gyd yn chwarae pêl-droed yn y dref[1]. Cafodd clwb o'r enw C.P.D. Bwcle eu cynnwys yn yr het ar gyfer Nghwpan Cymru yn 1890-91 ond fe dynodd y clwb yn ôl cyn chwarae eu gêm yn erbyn Northwich Victoria[2].

Ym 1897-98 collodd C.P.D. Tref Bwcle yn erbyn Y Derewyddon yn rownd gyntaf Cwpan Cymru[3] ond erbyn 1900-01 roedd y clwb wedi eu hethol i'r Combination League, cynghrair ar gyfer prif dimau Manceinion,Sir Gaerhirfryn,Sir Gaer a gogledd Cymru[4].

Cafodd Bwcle Engineers cryn lwyddiant yng Nghwpan Amatur Cymru gan godi'r tlws ar dair achlysur ar ddechrau'r 20fed ganrif yn 1905-06, 1906-07 ac yn 1910-11[5].

Wedi'r Ail Ryfel Byd roedd clybiau Bwcle Wanderers a Bwcle Rovers yn chwarae yng Nghynghrair Cymru (Ardal Wrecsam) gyda Wanderers hefyd yn cyrraedd rownd derfynol Cwpan Amatur Cymru ym 1960-61 a 1975-75[5]. Ym 1977 daeth y ddau glwb ynghŷd er mwyn ffurfio C.P.D. Tref Bwcle<ref name="hanes">.

Anrhydeddau

  • Cynghrair Undebol
    • Pencampwyr: 2004-05

Chwaraewyr nodedig

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 "History: Buckley Town". Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Welsh Cup 1890-91". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Welsh Cup 1897-98". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "The Combination League history". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 "Wales - List of Welsh Amateur Cup Finals". RSSSF.com.
Cynghrair Undebol, 2018-19

Airbus UK | Bangor | Bwcle | Cegidfa | Conwy | Dinbych | Gresffordd | Hotspur Caergybi |
Llanrhaeadr | Penrhyncoch | Porthmadog | Prestatyn | Rhuthun | Treffynnon Y Fflint | Y Rhyl