Dad-ddofi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
#wici365
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Koniks4.JPG|250px|right||Cyflwynwyd rhwng 800 – 1,150 ceffyl gwyllt ar 56[[km²]] o dir ar brosiect dad-ddofi yn Oostvaardersplassen, yn [[Felvoland]], [[Yr Iseldiroedd]]]]
Cynlluniau [[cadwraeth]] ar raddfa eang yw '''dad-ddofi''' sydd yn ceisio adfywio ac amddiffyn [[bywyd gwyllt]] ac ehangu [[bioamrywiaeth]] mewn [[ecosystem]] benodol. Yn aml byddai hyn yn golygu [[ailgyflwyno rhywogaethau]] cynhenid, fel arfer [[rhywogaeth allweddol|rhywogaethau allweddol]] neu [[ysglyfaethwyr ar y brig]], i'w cynefinoedd hanesyddol, mewn ymdrech i ddad-wneud effeithiau bodau dynol ar yr [[amgylchedd]]. Ffurf reoledig ar ailnaturio ydy dad-ddofi: nid yw'n galw ar fodau dynol i roi'r gorau i'w perthynas â'r amgylchedd, ond yn hytrach i ddefnyddio technegau cadwraethol a pheirianneg [[ecoleg]]ol i alluogi natur i ddychwelyd i ardaloedd sydd wedi'u hesgeuluso'n amgylcheddol, gan ddadwneud y difrod a wnaed gan [[diwydiannu|ddiwydiannu]], [[amaeth]], [[trefoli]], a [[llygredd]]. Y gobaith hir-dymor yw byddai adfer [[cynaladwyedd]] a phrosesau naturiol yn yr amgylchedd yn raddol yn creu ecosystem sydd yn gofalu am ei hunan heb ymyrraeth gan fodau dynol.
 
== Dulliau ==
=== Ailgyflwyno rhywogaethau ===
[[Fil:WolfRunningInSnow.jpg|thumb|Dad-ddofi ym Mharc Yellowstone trwy ail-gyflwyno'r [[blaidd]]]]
Un o brif ddulliau dad-ddofi yw ailgyflwyno rhywogaethau, yn enwedig ysglyfaethwyr ar y brig a [[cigysydd|chigysyddion]] mawr sydd yn effeithio ar eu holl ecosystem drwy "rhaeadrau troffig". Un o’r achosion amlycaf yw dychweliad [[blaidd|bleiddiaid]] i [[Parc Cenedlaethol Yellowstone|Barc Cenedlaethol Yellowstone]] yn [[Unol Daleithiau America]]. Pan ddaeth y blaidd yn ôl i’r ardal, bu’n rhaid i [[carw|geirw]] ac [[elc]]od newid eu hymddygiad, a threulio llai o amser ger [[dyfrfan]]nau. Oherwydd bu llai o bori gan [[llysysydd|lysysyddion]] yn y lleoedd hyn, tyfodd mwy o goed a blodau ar lannau afonydd, gan atynnu rhagor o adar a phryfed. Wrth i’r coedwigoedd ehangu, dychwelodd afancod hefyd i’r afonydd, gan greu amodau er lles pysgod, amffibiaid, a mamaliaid eraill megis [[dyfrgi|dyfrgwn]]. Mae’r blaidd hefyd yn cystadlu â’r [[coiote]], sydd yn bwydo ar [[cnofil|gnofilod]], ac felly mae poblogaethau llygod ac ati wedi tyfu sydd o fudd i adar ysglyfaethus, [[gwenci|gwencïod]], [[llwynog]]od, a [[broch Americanaidd|brochod Americanaidd]]. Yn ogystal, bwyteir [[burgyn]]nod a adewir gan fleiddiaid gan [[cigfran|gigfrain]] ac [[eryr]]od. Mae [[arth|eirth]] hefyd yn bwydro ar furgynnod a’r mwyar sydd yn niferus o ganlyniad i’r gostyngiad mewn pori gan lysysyddion.