Dad-ddofi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 4:
== Dulliau ==
=== Ailgyflwyno rhywogaethau ===
[[FilFile:WolfRunningInSnow.jpg|thumb|Dad-ddofi ym Mharc Yellowstone trwy ail-gyflwyno'r [[blaidd]]]]
Un o brif ddulliau dad-ddofi yw ailgyflwyno rhywogaethau, yn enwedig ysglyfaethwyr ar y brig a [[cigysydd|chigysyddion]] mawr sydd yn effeithio ar eu holl ecosystem drwy "rhaeadrau troffig". Un o’r achosion amlycaf yw dychweliad [[blaidd|bleiddiaid]] i [[Parc Cenedlaethol Yellowstone|Barc Cenedlaethol Yellowstone]] yn [[Unol Daleithiau America]]. Pan ddaeth y blaidd yn ôl i’r ardal, bu’n rhaid i [[carw|geirw]] ac [[elc]]od newid eu hymddygiad, a threulio llai o amser ger [[dyfrfan]]nau. Oherwydd bu llai o bori gan [[llysysydd|lysysyddion]] yn y lleoedd hyn, tyfodd mwy o goed a blodau ar lannau afonydd, gan atynnu rhagor o adar a phryfed. Wrth i’r coedwigoedd ehangu, dychwelodd afancod hefyd i’r afonydd, gan greu amodau er lles pysgod, amffibiaid, a mamaliaid eraill megis [[dyfrgi|dyfrgwn]]. Mae’r blaidd hefyd yn cystadlu â’r [[coiote]], sydd yn bwydo ar [[cnofil|gnofilod]], ac felly mae poblogaethau llygod ac ati wedi tyfu sydd o fudd i adar ysglyfaethus, [[gwenci|gwencïod]], [[llwynog]]od, a [[broch Americanaidd|brochod Americanaidd]]. Yn ogystal, bwyteir [[burgyn]]nod a adewir gan fleiddiaid gan [[cigfran|gigfrain]] ac [[eryr]]od. Mae [[arth|eirth]] hefyd yn bwydro ar furgynnod a’r mwyar sydd yn niferus o ganlyniad i’r gostyngiad mewn pori gan lysysyddion.