Chwarel Llechwedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ychw
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Chwarel lechi ger [[Blaenau Ffestiniog]] yw '''Chwarel Llechwedd'''. Roedd yn un o'r chwareli mwyaf yn yr ardal; yn [[1884]] cynhyrchwyd 23,788 tunnell o lechi gan 513 o weithwyr.
Agorwyd y chwarel yn [[1846]] gan [[John W. Greaves]]. Roedd ganddo eisoes lês ar chwareli Diffwys a Bowydd. Yn 1846 rhoddodd Greaves a'i bartner Edwin Shelton y gorau i chwarel Bowydd a chymeryd lês ar dir pori gerllaw. Y flwyddyn ddilynol, [[1847]], cafodd ei weithwyr hynhyd i'r "Hen Wythïen", a dechreuodd y chwarel ddatblygu'n gyflym dan fab J.W. Greaves, Ernest Greaves. Adeiladwyd incên i gysylltu'r chwarel a [[Rheilffordd Ffestiniog]] yn [[1848]].
 
Cynhyrchwyd 2,900 tunnell o lechi yn [[1851]], a symudodd y cwmni ei swyddfeydd i dref [[Porthmadog]], lle adeiladwyd cei arbennig ar gyfer Llechwedd yn [[1853]]. Erbyn [[1863]] roedd y cynnyrch blynyddol yn 7,620 tunnell. Yn [[1890]] dechreuodd Llechwedd ddefnyddio peiriannau trydan, y cyntaf o chwareli ardal Ffestiniog i wneud hyn. Roedd yn cynhyrchu ei thrydan ei hun, gan ddefnyddio dŵr o [[Llynnau Barlwyd|Lynnau Barlwyd]].