Clodius Albinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'bawd|230px|Clodius Albinus Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd '''Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus''', mwy adnabyddu...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 08:13, 30 Rhagfyr 2009
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus, mwy adnabyddus fel Clodius Albinus (25 Tachwedd 147 - 19 Chwefror 197). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr Pertinax, cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.
Ganed ef yn Hadrumetum, yn nhalaith Affrica, i deulu uchelwrol. Ymunodd a'r fyddin, a thynnodd sylw ato ei hun wrth ymadd yn erbyn gwrthryfel Avidius Casius yn 175; ysgrifennodd yr ymerawdwr Marcus Aurelius ddau lythyr ato yn ei ganmol.
Daeth yn llywodraethwr talaith Gallia Belgica ac yna yn llywodraethwr Prydain. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr Pertinax, gwerthodd Gard y Praetoriwm yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog Didius Julianus. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, Pescennius Níger yn Syria, Septimius Severus yn Pannonia ac Albinus ym Mhrydain. gyda chefnogaeth y milwyr yng Ngâl hefyd.
Ar y dechrau, gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn 194, bu Albinus a Severus yn ymladd yn erbyn ei gilydd am rai blynyddoedd. Gorchfygwyd byddin Albinus ger Lugdunum ar 19 Chwefror 197, a lladdwyd ef ei hun yn y frwydr.