Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Clodius Albinus"

Ychwanegwyd 1 beit ,  11 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd '''Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus''', mwy adnabyddus fel '''Clodius Albinus''' ([[25 Tachwedd]] [[147]] - [[19 Chwefror]] [[197]]). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr [[Pertinax]], cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.
 
Ganed ef yn [[Hadrumetum]], yn nhalaith Affrica, i deulu uchelwrol. Ymunodd a'r fyddin, a thynnodd sylw ato ei hun wrth ymadd yn erbyn gwrthryfel [[Avidius CasiusCassius]] yn [[175]]; ysgrifennodd yr ymerawdwr [[Marcus Aurelius]] ddau lythyr ato yn ei ganmol.
 
Daeth yn llywodraethwr talaith [[Gallia Belgica]] ac yna yn llywodraethwr [[Britannia|Prydain]]. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr [[Pertinax]], gwerthodd [[Gard y Praetoriwm]] yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog [[Didius Julianus]]. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, [[Pescennius Níger]] yn [[Syria]], [[Septimius Severus]] yn [[Pannonia]] ac Albinus ym Mhrydain. gyda chefnogaeth y milwyr yng [[Gâl|Ngâl]] hefyd.
37,236

golygiad