Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 88:
 
==Amwynderau ac atyniadau==
[[Delwedd:Aberystwith Harbour.jpeg|bawd|Harbwr Aberystwyth, 1850]]Tref brifysgol a chyrchfan i dwristiaid yw Aberytwyth, sydd hefyd yn ffurfio cyswllt diwylliannol rhwng y Gogledd a’r De. Mae Craig-glais (neu Consti, o’r enw Saesneg Constitution Hill) yn rhoi golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion a'i forlin, yn ogystal ag atyniadau eraill ar y copa, gan gynnwys y Camera Obscura. Gall ymwelwyr gyrraedd y copa gyda Rheilffordd y Graig, sef y rheilffordd ffwniciwlar hiraf yn y DU tan 2001.
 
Mae’r mynyddoedd Cambria yn ffurfio rhan o'r tirlun golygfaol sydd yn amgylchu’r dref, y mae eu cymoedd yn cynnwys coedwigoedd a dolydd sydd dim wedi newid yn fawr am ganrifoedd. Ffordd cyfleus i gyrraedd y mewntir ydy’r Rheilffordd Cwm Rheidol, lein trac cul wedi’i gadw gan wirfoddolwyr.