Wicipedia:Y Caffi/archif/12: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
creu archif
 
Llinell 129:
 
Dim ond gair i'ch cyfeirio i drafodaeth (arall!) am enwau gwledydd yn Gymraeg: [[Sgwrs:Korea|yma]]. Diolch. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 09:05, 12 Gorffennaf 2009 (UTC)
 
 
== Wythnos i ffwrdd ==
 
Ar frys gwyllt: mi fyddaf i ffwrdd dramor am wythnos (archwiliad o lefydd bwyta Rick Stein), ond yn gadael yr hen le 'ma mewn dwylo da, cadarn, medrus. Byddwch wych! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 19:12, 16 Gorffennaf 2009 (UTC)
 
== Wicipedia yn y cylchgrawn Planet a 'Gorsedd y Gîcs' yn Eisteddfod 2009 ==
 
Er gwybodaeth, yn ôl [http://datblogu.weblog.glam.ac.uk/2009/7/21/planet-wicipedia-8 blog Daniel Cunliffe], mae erthygl am y Wicipedi yn rhifyn diweddara o ''Planet''.
 
Hefyd, i'r rhai ohonoch sy'n mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol eleni yn y Bala, mae digwyddiad ymylol o'r enw [http://www.metastwnsh.com/gorsedd-y-gics-eisteddfod-bala/ Gorsedd y Gîcs] yn digwydd ar y dydd Iau 6.8.09 am 5:50pm yn y Plas Coch.<br>
Does dim trefn ffurfiol i'r digwyddiad, ond petai rhywun o'r Wicipedia'n digwydd bod eisiau mynd (alla i ddim oherwydd gwaith), byddai croeso i rhoi ryw gyflwyniad bach am gyflwr y Wici ac efallai trio annog eraill i gyfrnauu a/neu ei hyrwyddo. <br>
Dw i'n nabod sawl un sy'n mynd i fod yn bresenol a maen nhw'n bobl ffein iawn - peidiwch bod yn swil!--[[Defnyddiwr:Ben Bore|Ben Bore]] 13:23, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
 
:Diolch am y wybodaeth, Ben. Yn anffodus fedra' i ddim mynd i'r Steddfod fy hun chwaith, ond gobeithio bydd rhywun sydd yn mynd yn teimlo fel mentro arni yn 'yr Orsedd'. Braf clywed am yr erthygl yn ''Planed'': oes posibl cael cadarnhad a rhoi'r cyfeiriad yn yr erthygl ar y [[:en:Welsh Wikipedia|Wicipedia Cymraeg ar 'en']]? [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 17:32, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
 
::Anghofiais am yr erthyg yna ar y Wiki Saesneg. A'i i'r llyfrgell i golwg amdano fo.--[[Defnyddiwr:Ben Bore|Ben Bore]] 20:38, 21 Gorffennaf 2009 (UTC)
 
:::Basa'n braf cael hynny yn yr erthygl, sy'n gweithio fel math o hysbyseb i ni hefyd (digywilydd!). [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 22:00, 27 Gorffennaf 2009 (UTC)
 
== ymholiad ar llangefni ==
 
helo mae gen i gwestiwn ar hen enw Rallt Station Llangefni, yn yr hen oesoedd roedd ei enw hi yn Allt y Forwylt, rwy yn gwybod ystyr y gair sef Wild Ford ond nid pam roedd yr enw yma wedi cael ei rhoi arni hi, fysau unrhiw wyubodaeth yn helpu y fi...
 
maen ddrwg gen i am a sillafu
 
Pa hwyl? Diddorol iawn. Ydy'r enw'n iawn gen ti: y Forwylt? Nid "y Forwyllt"? Dim syniad! Unrhyw gysylltiad efo'r bardd Morwyllt 1839-1921? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 05:52, 3 Awst 2009 (UTC)
 
maen ddrwg gen i Forwyllt sydd yn iawn mae fy sillafu yn wael, Mi wnae edrych i mewn ir bardd Morwyllt, diolch yn fawr iawn
 
== Glanhau erthyglau sydd eu hangen ==
 
Roeddwn i'n styried glanhau tipyn ar:
http://cy.wikipedia.org/wiki/Arbennig:WantedCategories
drwy greu'r Cats. Be yn union sydd angen ei wneud? Teipio'r hierarci uwch yn y blwch? <s>[[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:06, 1 Awst 2009 (UTC)</s>
 
Nage. Nid fi ofynodd y cwestiwn yma. Dyma'r ail waith erioed i hyn ddigwydd. Cwestiwn gan bwy ydy hwn, felly? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 05:07, 3 Awst 2009 (UTC)
 
:Mae'r un peth wedi digwydd i fi yn y gorffennol, fan hyn ac ar y Wici Saesneg. Ches i'm mlocio o'r Wici Saesneg am fandaleiddio erthygl am ryw bentref yng Ngogledd Lloegr ond alla i ddweud a'm llaw ar fy nghalon nad oedd dim byd i'w wneud a fi! ''Glitch'' o ryw fath yn y system, mae'n rhaid. [[Defnyddiwr:Rhodri77|Rhodri77]] 08:40, 3 Awst 2009 (UTC)
 
::Yr hyn sy'n anhygoel ydy cyn lleied o broblemau sydd gennym ni!!! Rhodri - mae Wicipedia Cymraeg yn un o ffynhonellau gwybodaeth gorau sydd gennym fel cenedl. Mae hi'n fraint cael gweithio arni efo pobol mor alluog yn adeiladu un o drysorau'r genedl - ar gyfer y dyfodol. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 10:44, 3 Awst 2009 (UTC)
 
 
 
== Dyddiadau ==
 
Os ydy pawb yn cytuno, yna, dwi am gysoni dyddiadau holl erthyglau Wici yn unol â'r [http://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs_Wicipedia:Arddull canllawiau] i'r fformat syml:
 
'''13 Tachwedd 2009''' yn hytrach na'r dull clogyrnaidd 13eg o Dachwedd, 2009.
 
Sylwadau os g yn dda? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 13:07, 2 Awst 2009 (UTC)
 
:Dim gwrthwynebiad o gwbl mewn egwyddor, Llywelyn, ond wyt ti'n sylweddoli faint o waith mae hynny'n olygu? Mi fyddi di wrthi tan y Dolig! Gwaith bot ydy hyn, a dyna sydd ei angen arnom ni yma i wneud gwaith diflas fel hyn, cywirio <s>camsillufa</s> camsillafu, newid categorïau ayyb. Gwell treulio ychydig o ddyddiau yn gosod bot ar y Wici yn lle dechrau ar y gwaith diddiwedd hwn? [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 21:34, 2 Awst 2009 (UTC)
 
::M! Diddorol. Mi hola i am fot. Alan fydde'n gwybod ond fe ddiflannodd hwnnw i'r gwynt! Unrhyw syniadau pellach? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 21:42, 2 Awst 2009 (UTC)
:::Dwi ddim yn gwybod lle i ddechrau, heblaw efallai am chwilio am berchennog bot ar en: neu rywle arall a gofyn ei addasu/"benthyg" ar gyfer gwaith yma. Ond am yr ochr dechnegol, does gen i ddim syniad o gwbl. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 21:57, 2 Awst 2009 (UTC)
::::OCe. Ie, Bot ydy'r ffordd ymlaen. Mae hwnnw wedi'i sefydlu ar Scgript Peithon, ac mae gen i tipyn o hwnnw (neu mi oedd!). OND, mae'n rhaid i Fiwrocrat roi ei ganiatad, Mr Anatiomaros, Syr... Wnei di gymryd cip ar [http://meta.wikimedia.org/wiki/Requests_for_bot_status#en:User:YurikBot Steward requests/Bot status] a mi weli ddolen o'r enw Special:UserRights. Bydd yn rhaid aros wythnos, rhag ofn fod unrhyw un o'r criw'n gwrthwynebu. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:57, 2 Awst 2009 (UTC)
::::::Unrhyw newydd am hyn, Llywelyn? Cofia bydd angen botwm mawr coch gyda STOP! arno i'w ddiffodd mewn argyfwng, rhag ofn... [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 23:00, 4 Awst 2009 (UTC)
 
::Sorri! This is where I have to admit that I don't entirely follow the discussion above. There's lots of disagreement on the English wikipedia about date formats, but here I've always kept to the rule of day-month-year and linked all significant dates (mainly to make it easier when creating and amending the year articles). That's the standard/convention I've been using. [[Defnyddiwr:Deb|Deb]] 22:17, 4 Awst 2009 (UTC)
 
:::Hi. Yes, I agree with all you say. However, you have a comma after the month, yet both Wiki and Wici (sounds like two S4C cartoon characters!), suggest one uninterupted line: [[2 Awst]] [[2009]] rather than [[2 Awst]], [[2009]]. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:36, 4 Awst 2009 (UTC)
 
::::I don't think I put that comma there, did I? I may have put one after the year, though. [[Defnyddiwr:Deb|Deb]] 18:15, 5 Awst 2009 (UTC)
 
Must have been an oversight! It refers to your edit on [[Harry Belafonte]]
''Y diwygiad cyfredol, am 21:29, 4 Awst 2009'' when you wrote: '''(ganed [[1 Mawrth]], [[1927]]...''' (i.e. with a comma). Must have been a typo. Thanks a diolch. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:55, 5 Awst 2009 (UTC)
 
== Hawlfraint Lluniau ar Wefan y Steddfod Genedlaethol. ==
 
Ebostiais y Steddfgod : ''Carwn wneud cais i ddefnyddio rhai o'r lluniau sydd ar eich gwefan ar Wicipedia.'' a ches yr ateb hwn:
From: Hywel Wyn Edwards <<nowiki>{{cuddwyd y cyfeiriad e-bost}}</nowiki>>
Subject: Re: Hawlfraint lluniau
Date: 02/08/2009 06:52:43
To: Hywel Wyn Edwards
Sent: 2 Aug 2009 06:34
Subject: Hawlfraint llunia
gyda'r cwestiwn:
 
'''Dim problem!'''
 
Felly.... ewch ati! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 22:05, 2 Awst 2009 (UTC)
 
:Gwych! Diolch i ti. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 22:23, 2 Awst 2009 (UTC)
 
[http://www.eisteddfod.org.uk/cymraeg/content.php?nID=112 Dolen i'r wefan] [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 05:30, 3 Awst 2009 (UTC)
 
 
== Safoni termau Wici==
 
Carwn gynnig ein bod yn safoni ein termau ar Wici drwy fabwysiadu termau sydd wedi'u cymeradwyo gan y cyrff canlynol:
 
*'''termau meddygol''': '''Y Gwyddoniadur Iechyd''' (gan Y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol) - gweler ein trafodaethau [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Sgwrs_Defnyddiwr:Llywelyn2000&redirect=no#Afiechyd yma]
*'''enwau gwledydd''': '''Bwrdd yr Iaith''' - gweler ein trafodaethau [http://cy.wikipedia.org/wiki/Sgwrs:Korea#Corea.2FKorea yma] a'r rhestr ei hun sydd [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]].
 
Awgrymaf ein bod yn cael holiadur ar y ddau yma, ac yna'n ychwanegu atynt fel y cyfyd unrhyw ddadleuon eraill sy'n ymwneud â thermau.
 
:''Ychwanegwch eich barn yn y rhan yma, gan ddechrau pob llinell gyda '' <code><nowiki>*'''Cytuno'''</nowiki></code> ''neu'' <code><nowiki>*'''Anghytuno'''</nowiki></code>'', ac yna arwyddwch yn y drefn arferol fel hyn:'' <code><nowiki>~~~~</nowiki></code>''.''
 
* '''Cytuno''' Mae angen cysondeb arnom. Bu trafodaethau ar y ddau set o dermau dros gyfnod o dair blynedd, a mwy!! Mae'n hen bryd i Wicipedia fabwysiadu argymhellion yr arbenigwyr yn y ddau gorff proffesiynol uchod. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 05:39, 6 Awst 2009 (UTC)<br>
* '''Cytuno'''. O leiaf fe fyddai'n atal dadlau, ond fe fydd llawer o waith newid ar erthyglau, categorïau ac yn y blaen. Mae'n anffodus fod "arbenigwyr" Bwrdd yr Iaith wedi creu rhestr enwau gwledydd sydd mor anghyson ynddi ei hun. [[Defnyddiwr:Rhion|Rhion]] 07:32, 6 Awst 2009 (UTC)<br />
* '''Cytuno''' Ond sut yr ydym fod mynd ati i cysoni pob term yma? [[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 16:54, 8 Awst 2009 (UTC)
* '''Anghytuno''' (''a'' '''Chytuno''' mewn egwyddor ar yr un pryd). Ni fedraf dderbyn rhestr enwau gwledydd Bwrdd yr Iaith fel ffynhonnell ddibynadwy. Mae nhw wedi dewis gormod o ffurfiau ''Saesneg'' yn lle ffurfiau Cymraeg naturiol. Rhowch "yn Affganistan" mewn peiriant chwilio ac mi gewch chi fod y [[BBC]], [[Golwg]], [[S4C]], ymgyrch [[dotcym]], [[Llywodraeth Cymru]] a hyd yn oed [[MI5]] yn ei ddefnyddio, ond y ffurf Saesneg 'Afghanistan' sydd gan y Bwrdd. Enghraifft arall: [[Moroco]]. Dim angen dwy 'c' (ydy'r Bwrdd am gael 'Criccieth' yn lle [[Cricieth]]?) fel sy gan y Bwrdd gyda'i 'MoroCCo' Saesneg (ia, Saesneg!) tra bod y BBC, S4C, [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] ac eraill yn defnyddio'r ffurf Gymraeg naturiol [[Moroco]] (sydd i'w gweld hefyd mewn teitl llyfr Cymraeg). Fel mae Rhion yn nodi, "Mae'n anffodus fod "arbenigwyr" Bwrdd yr Iaith wedi creu rhestr enwau gwledydd sydd mor anghyson ynddi ei hun." Gwir bob gair, a does dim angen o gwbl i ni eu dilyn nhw chwaith. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 17:10, 8 Awst 2009 (UTC) ON [[Pacistan]] yw'r ffurf - nid y "''Pakistan''" Saesneg sy gan "arbenigwyr" Bwrdd yr Iaith - a ddefnyddir yng Nghofnodion swyddogol [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] (gweler [http://www.cynulliadcymru.org/index/hom-search.htm?typ=s&act=frm&DatabaseMatch=ENGLISH&Text=pacistan yma]). Mae sawl enghraifft o'r ffurf Gymraeg gwbl dderbyniol [[Pacistan]] ar wefannau BBC Cymru, Golwg360, Prifysgolion Bangor ac Aberystwyth, y BBC ayyb hefyd, felly mae'n rhaid gofyn pwy yn union ydy "arbenigwyr" y Bwrdd, beth yw sail eu dewis mympwyol ac anghyson a pham ddylem ni dderbyn eu "hawdurdod" pan mae'n amlwg fod nifer o sefydliadau eraill yn angytuno â nhw? Byddai derbyn y ffurfiau ar restr y Bwrdd yn ei chrynswth, yn anfeirniadol, yn tanseilio annibyniaeth a hygrededd Wicipedia, yn fy marn i, a dyna'r peth olaf rydym ni eisiau gweld, gobeithio. ONN Does gen i ddim byd yn erbyn derbyn 'Y Gwyddoniadur Iechyd' - dwi ddim yn ddigon o arbenigwr yn y maes hwnnw i farnu. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 18:35, 8 Awst 2009 (UTC)
* '''Cytuno''' ''ac'' '''anghytuno''' yn enwedig ar ol darllen y sylwadau uchod. A oes modd safoni'r termau meddygol am ei fod yn ymddangos nad oes cymaint o amrywiaeth o dermau fan hyn? Ar y llaw arall, dw i'n hoffi'r syniad o gysoni enwau gwledydd a.y.y.b. ond os nad oes cysondeb ymhlith sefydliadau fel ByIG, y BBC ac ati, dw i ddim yn gweld ei fod yn ymarferol bosib i wneud hynny. [[Defnyddiwr:Rhodri77|Rhodri77]] 18:30, 8 Awst 2009 (UTC)
* '''Cytuno''' i fabwysiadu terminoleg y Gwyddoniadur Iechyd (gweler [[Sgwrs Defnyddiwr:Llywelyn2000#Afiechyd|sgwrs rhyngdda i a Llywelyn]]). <br/>'''Anghytuno''' i fabwysiadu awgrymiadau Bwrdd yr Iaith ar enwau gwledydd. Yn fy marn i mae'r dadleuon eisoes ar enwau gwledydd yn dangos bod gormod o anghydfod i ddilyn un o'r nifer o "restrau safonol" sydd ar gael. Fel dywedodd Anatiomaros mae angen amddiffyn annibyniaeth Wicipedia trwy wneud penderfyniadau call ar ba ffurfiau enwau i ddefnyddio, ac mae'r erthygl [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]] yn dystiolaeth ein bod yn ymwybodol o'r mater dadleuol hwn ac yn cydnabod safonau sefydliadau a chyhoeddiadau eraill. Rwyf o blaid cadw at yr enwau traddodiadol a mwyaf poblogaidd, a lle bo dadlau mawr ar ba ffurf i ddefnyddio dylsen cynnal trafod ar dudalen sgwrs yr erthygl berthnasol. --[[Defnyddiwr:Adam|Adam]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Adam|Sgwrs]]) 21:46, 8 Awst 2009 (UTC)
 
'''Dod i gasgliad:''' Diddorol iawn! A diolch i bawb. Hoffwn eich sylwadau ar y tri phwynt canlynol os gwelwch yn dda, neu'r gair "Cytuno" os ydych?
1. Ga i awgrymu'n gynnil dull o ymgorffori sylwadau creadigol Anatiomaros ac Adam â'r gweddill ohonom sy'n dymuno mabwysiadu termau Bwrdd yr Iaith. Dwi wedi addasu'r [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]]; mi newidiaf e'n ôl os nad oes consensws! Fe welwch fod y golofn olaf yn caniatáu eithrio o'r safon pan fo cytundeb i wneud hynny. I fod yn ymarferol, awgrymaf fod un person (Anatiomaros, efallai oherwydd ei sylwadau (creadigol) uchod) yn nodi yn y golofn olaf (Colofn Wici) yr eithriadau mae'n dymuno ei weld. Mi faswn i'n gobeithio y gellid cadw nifer yr eithriadau mor fychan a phosibl i adlewyrchu barn y mwyafrif (uchod, sydd o blaid safon Bwrdd yr Iaith).
2. Mae'r mwyafrif o blaid mabwysiadu terminoleg y Gwyddoniadur Iechyd (er fod rhai bathiadau hurt yn hwnnw hefyd!)
3. Awgrymaf ddalen yn nodi ein bod yn seilio ein termau ar y ddau gorff hyn, ac yn croesawu trafodaeth ar dermau eraill yn y dyfodol.
 
[[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 21:44, 10 Awst 2009 (UTC)
 
: Roedd fy mhleidlais "Cytuno" i uchod o blaid safoni yn gyffredinol, nid o blaid rhestr Bwrdd yr Iaith yn arbennig. Rwy'n awgrymu y dylai'r golofn olaf fod yn rhestr safonol Wicipedia o enwau lleoedd, gan ddewis y ffurf fwyaf addas o'r rhestri eraill ym mhob achos lle mae gwahanol ffurfiau, ond heb rhoi unrhyw flaenoriaeth arbennig i restr Bwrdd yr Iaith. [[Defnyddiwr:Rhion|Rhion]] 06:08, 11 Awst 2009 (UTC)
 
::Does dim cytundeb o gwbl i fabwysiadu rhestr anffodus Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae'r drefn sy gennym yn barod yn gwneud synnwyr gan fod y tair rhestr yn anghytuno mewn rhannau. Dof yn ôl at hynny isod. Rhaid i mi ddeud yr oedd yn anheg braidd agor trafodaeth ar y ddau beth yma - enwau'r gwledydd a thermau iechyd - gyda'i gilydd. Pwynt arall: pam gymaint o frys? Mae'n ganol yr haf, rydym wedi trafod hyn am dridiau ac mae cyfranwyr sydd heb gael y cyfle i fynegi eu barn eto. Ac mae'n amlwg fod anghytundeb dwfn yma. Ar y llaw arall, ymddengys fod pawb yn barod i dderbyn y Gwyddoniadur Iechyd a does gennyf ddim problem efo hynny o gwbl: gellid cael pleidlais ar hynny, gan ei adael yn agored am ryw wythnos i roi cyfle i bawb gymryd rhan.
::Mae 'na ragor i ddweud am yr enwau gwledydd. Dwi ddim am fynd trwy'r holl enghreifftiau o anghysondeb a'r dewis mympwyol o ffurfiau Saesneg sydd yn rhestr y Bwrdd, ond yn fy marn i gallai plentyn ysgol wedi gwneud yn well na'r "arbenigwyr", pwy bynnag ydyn nhw. Mae 'na ddiffyg amlwg arall hefyd, sy'n llwyr danseilio unrhyw ddadl dros dderbyn rhestr y Bwrdd (neu un o'r lleill) fel ein hunig awdurdod: mae rhestr Bwrdd yr Iaith yn brin o '''49''' o wledydd. Be wnawn ni efo nhw? Bydd rhaid i ''ni'' ar Wicipedia ddewis, mae'n amlwg. Felly hyd yn oed pe bai rhestr y Bwrdd yn un a fodlonai pawb ni fyddai ei mabwysiadu fel unig awdurdod Wicipedia ar y pwnc yn datrys y broblem. Yr hen drefn sydd orau dan yr amgylchiadau: rhestr Wicipedia (sy'n agored i drafodaeth) yw ein safon, yn seiliedig ar y gorau o'r hyn sy'n cael ei gynnig gan y tair rhestr. Dwi'n awgrymu rhoi'r enwau sydd gennym ni yn y golofn gyntaf ar y dudalen [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]] hefyd. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 14:45, 11 Awst 2009 (UTC)
 
:::"''Trefn''"? "''Mae'r drefn sy gennym yn barod yn gwneud synnwyr gan fod y tair rhestr yn anghytuno mewn rhannau.''" Tydy hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae ein diffyg trefn, ein diffyg cysondeb, ein defnydd rhywsut-rywsut o unrhyw un o'r colofnau, unrhyw sillfiad yn CHWERTHINLLYD! Mae angen safoni Wicipedia - beth bynnag ydy ein daliadau personnol ni am sillafu. Tydan ni DDIM yn arbenigwyr, Llais i arbenigwyr ydy Wicipedia, gadewch i'r llais hwnnw fod yn un safonol, cyson. Byddai derbyn un o'r colofnau yn gwneud Wicipedia yn llawer mwy credadwy; mae ein credinedd ar hyn o bryd yn racs-jibiders gan drwch y mwyafrif. Un o'r rhesymau am hynny yw nad oes gennym ni yw hyn oll. Byddai rhestr safonol o gyrff SAFONOL (nid ffugenwau!) yn help i'n gwneud yn fwy credadwy... a derbyniol.
:::Cytunaf ac awgrym Anatiomaros i gadw'r bleidlais ar agor am wythnos arall. Ond mae trafodaethau fel hyn wedi digwydd ers tair blynedd! Mae'n bryd dod i gasgliad.
:::Mae Anatiomaros yn holi beth i'w wneud gyda'r "49" enwau gwledydd nad ynt ar rest ByI. Efallai na welodd y frawddeg uchod gen i: "Fe welwch fod y golofn olaf yn caniatáu eithrio o'r safon pan fo cytundeb i wneud hynny." Ein hawgrymiadau a'n hychwanegiadau ni fyddai yn hon. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 23:08, 11 Awst 2009 (UTC)
 
::::Dyma ddiddorol: mae Bwrdd yr Iaith ei hun braidd yn ansicr am ei safonau. Yn ei [http://www.byig-wlb.org.uk/cymraeg/cyhoeddiadau/Pages/PublicationItem.aspx?puburl=/Cymraeg/cyhoeddiadau/Cyhoeddiadau/4648.pdf Ganllawiau wrth ddynodi enwau gwledydd, ieithoedd a phobloedd y tu allan i Gymru] dywed "Pakistan ond Pacistaniad" ond ar ei restr mae'n awgrymu Pacistan fel enw'r wlad! Yn ogystal mae'r canllawiau yn cyfeirio at "Guinea Gyh'''e'''deddol" tra bo'r rhestr yn rhoi "Guinea Gyh'''y'''deddol". Efallai mae'r rhain yn gamgymeriadau bychain, ond yn fy marn i mae hyn yn dweud mwy am gredinedd Bwrdd yr Iaith nag y mae'r diffyg i gydffurfio â safonau un sefydliad/cyhoeddiad arall yn dweud am gredinedd Wicipedia. --[[Defnyddiwr:Adam|Adam]] ([[Sgwrs Defnyddiwr:Adam|Sgwrs]]) 23:40, 11 Awst 2009 (UTC)
 
Newydd weld erthygl gennym o'r enw [[Gwledydd y byd]]. Ein trefn bresenol "yw dilyn y ffurfiau yn yr Atlas Cymraeg gan geisio cymryd i ystyriaeth yn ogystal argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg, a gyhoeddodd ei rhestr o enwau lleoedd yn 2007." (Gweler yr erthygl [[Gwledydd y byd]] gan Lloffiwr, Marniel ac eraill). Rhyfedd na ddeuthum ar ei thraws cyn hyn! Carwn dynnu fy nghynnig (uchod) yn ôl parthed mabwysiadu safon Bwrdd yr Iaith a chadw'r status quo hy dilyn y ffurfiau yn yr Atlas Cymraeg... Dyma felly rhestr Wicipedia o enwau gwledydd. Glynwn atynt! Byddwn gyson, a dadlau unrhyw newidiadau i ffurfiau'r Atlas Cymraeg ar dudalen y wlad berthnasol. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 23:08, 13 Awst 2009 (UTC)
 
:Ond mae hynny allan o ddyddiad - fel llawer o bethau ar y Wicipedia - fel sy'n amlwg o'r sylwadau uchod gan Adam, Rhion a minnau. Ac mae'r rhan fwyaf o'r bobl a gyfranodd at y drafodaeth honno - 2007 neu gynt - a'r un gynharach (gweler [[Wicipedia:Sgwrs am Gwledydd y Byd]]) heb gyfrannu yma ers hydoedd. Mae pethau wedi newid ac roedd y newid yn anorfod. Nid yw'r un o'r ddwy restr "swyddogol" yn ffoddhaol: os ydym am dderbyn rhestr yr Atlas Cymraeg Newydd bydd rhaid i ni newid [[Irac]] i [[Iraq]], er enghraifft! Does posibl fod hynny'n dderbyniol? Felly nid "rhestr Wicipedia o enwau gwledydd" yw rhestr yr Atlas, na'r Bwrdd chwaith, ac mae 'na reswm da dros hynny. Duw a ŵyr dwi ddim isio i'r ddadl 'ma fynd ymlaen am fyth a'n gweld ni'n ffraeo gyda'n gilydd, ond dwi ddim yn gweld fod unrhywbeth o'i le o gwbl yn y ffaith ein bod yn dewis o'r tair ffynhonnell ac yn cydnabod hynny fel bod pawb yn gwybod sail ein rhestr ni. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 23:30, 13 Awst 2009 (UTC)
 
Copi o'r hyn rwyf newydd ei sgwennu ar [[Wicipedia:Arddull]]: ''Oni ddylid fod wedi trafod hyn (naill ai yma neu yn y caffi) CYN DILEU penderfyniad, waeth pa mor hen ydyw? Dyma'r geiriad rwyt newydd ei ddileu: '''Argymhellir dilyn sillafiad yr Atlas Cymraeg Newydd ar Wicipedia, fel ag ar restr gwledydd y byd. O’r rhestr hon y ceir teitlau’r erthyglau ar y gwledydd. Dylai sillafiadau amgen y wlad gael eu cofnodi yn yr erthygl.''' Ai oherwydd dy fod yn anghytuno gyda dewis-eiriau'r Atlas ee Korea? Awgrymaf yn gry dy fod yn trafod penderfyniadau fel hyn cyn mynd ati i'w newid o dy ben a dy bastwn! [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 23:35, 13 Awst 2009 (UTC)''''Testun italig''
 
Copiwyd y canlynol allan o'r erthygl [[Sgwrs Wicipedia:Arddull]]:
:::Llywelyn, mae'r ateb yn y Sgwrs yn y Caffi (ac uchod, o ran hynny). Dydyn ni ddim yn dilyn rhestr yr Atlas Cymraeg Newydd (wyt ti isio i ni dderbyn barn yr "arbenigwyr" hynny a chael [[Iraq]] yn lle [[Irac]] a [[Lithuania]] yn lle [[Lithwania]] ayyb? A chofia pwy benderfynodd symud [[Corea]]/[[De Corea]]/[[Gogledd Corea]] i [[Korea]]/[[De Korea]]/[[Gogledd Korea]] "o'i ben a'i bastwn ei hun", chwarae teg - nodyn o esboniad yw hyn, dim fel newid enw gwlad gyda phopeth mae hynny'n olygu. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 23:41, 13 Awst 2009 (UTC)
 
::::Eh? Does gen i ddim syniad am be wyt ti'n son! "Korea" fyddai fy sillafiad i, nid Corea. Tydw i ddim yn deall dy resymeg. Gawn ni gadw'r sgwrs ar y ddadl hon i'r Caffi? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 23:51, 13 Awst 2009 (UTC)
 
:::::Ac [[Iraq]] yn lle [[Irac]] hefyd? Mae hyn yn mynd yn wirion, Llywelyn. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 23:53, 13 Awst 2009 (UTC)
:::::"Does gen i ddim syniad am be wyt ti'n son!" [http://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Korea&diff=584731&oldid=584563 Hyn efallai?]. Nos da. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 23:56, 13 Awst 2009 (UTC)
 
::::::Korea ydy sillafiad yr Atlas Cymraeg. Korea sydd ar ein rhestr ni'n hunain (gweler [[Gwledydd y byd]]. Korea fyddai fy newis innau hefyd - er nad ydy hynny'n berthnasol, gan mai galw am dderbyn un Safon, termau un corff proffesiynol ydw i, ac nid dadlau dros fy marn (amhroffesiynol) i. Ond mae na egwyddor arall pwysig yma. Os oes gennym gytundeb i fabwysiadu enwau gwledydd fel y'i ceir yn yr Atlas Cymraeg (gan hefyd geisio cymryd i ystyriaeth yn ogystal argymhellion Bwrdd yr Iaith Gymraeg) yna dylid glynnu at hynny. Hy os oes gennym gytundeb, dylem lynnu ato; ac yn sicr ni ddylid ceisio'i newid heb drafodaeth synhwyrol. [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 00:09, 14 Awst 2009 (UTC)
 
:'''Ateb a chynnig'''
:Mae angen diweddaru'r datganiad ar ddechrau [[Gwledydd y byd]] i adlewyrchu realiti a pholisi ymarferol y Wicipedia Cymraeg: mae'r Wici wedi newid ers iddo gael ei (ail-)sefydlu yn 2003. Rydym ni ar fai am beidio gwneud hynny cyn rwan, mae'n debyg, ond dyna fo - does fawr neb yn edrych ar y dudalen honno, mae'n amlwg. Rydym ar fai hefyd am beidio cael polisi ''swyddogol'' newydd, ond mae'r polisi ''de facto'' yn un a ddatblygodd dros y blynyddoedd (nid gennyf fi yn unig, Llywelyn, ond gan bawb, fesul dipyn) ac sydd wedi cael ei dderbyn gan bawb hyd yn hyn.
:Parthed y ffurfiau ar enwau gwledydd a geir yn yr Atlas a'r datganiad gan Llywelyn uchod, ynghyd â'r datganiad cynharach ("Llais i arbenigwyr ydy Wicipedia, gadewch i'r llais hwnnw fod yn un safonol, cyson." Gyda llaw, nid "llais i arbenigwyr" yw Wicipedia, waeth pa argraffiad iaith.), hoffwn dynnu sylw at yr agendor rhyngom ni, y Wicipedia Cymraeg, a'r enwau "awdurdodol" yn yr Atlas. Dyma restr o'r '''37''' o enghreifftiau lle ceir gwahaniaeth, gan nodi ffurf yr Atlas yn gyntaf (italigs) a'r Wici (W:) wedyn:
:''Ynys Aruba'' (W: [[Aruba]]); ''Bahamas'' (W: [[Y Bahamas]]); ''Belarus'' (W: [[Belarws]]); ''Ynys Bermuda'' (W: [[Bermuda]]); ''Bolivia'' (W: [[Bolifia]]); ''Bosna-Hercegovina'' ([[Bosnia a Hercegovina]]); ''Burkina'' ([[Burkina Faso]]); ''Burundi'' ([[Bwrwndi]]); ''Cameroun/Cameroon'' (W: [[Camerŵn]]); ''Congo'' (W: [[Gweriniaeth y Congo]]); ''China'' (W: [[Tsieina]]: [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]]; [[Gweriniaeth Tsieina]]); ''De Korea'' (W: [[De Corea]] - symudwyd heb gytundeb i ffurf yr Atlas); ''Gogledd Korea'' (W: [[Gogledd Corea]] - symudwyd heb gytundeb i ffurf yr Atlas); ''Groeg'' (W: [[Gwlad Groeg]]); ''Guyane Ffrengig'' (W: [[Guyane]]); ''Ynys Guadeloupe'' (W: [[Guadeloupe]]; ''Gweriniaeth De Affrica'' (W: [[De Affrica]]); ''Iraq'' (W: [[Irac]]); ''Latvia'' (W: [[Latfia]]); ''Lithuania'' ([[Lithwania]]); ''Luxembourg'' (W: [[Lwcsembwrg]]); ''Macedonia'' (W: [[Gweriniaeth Macedonia]]); ''Malaŵi'' (W: [[Malawi]]); ''México'' (W: [[Mexico]]); ''Moçambique'' (W: [[Mosambic]]: ''Moldova'' (W: [[Moldofa]]); ''Panamá'' (W: [[Panama]]); ''România'' (W: [[Romania]]); ''St Kitts-Nevis'' (W: [[Saint Kitts a Nevis]]); ''St Lucia'' (W: [[Saint Lucia]]); ''St Vincent a'r Grenadines'' (W: [[Saint Vincent a'r Grenadines]]); ''Slovenija'' (W: [[Slofenia]]); ''Ynysoedd Tokelau'' (W: [[Tokelau]]); ''Tufalu'' (W: [[Twfalw]]); ''Viet Nam'' (W: [[Fiet Nam]]); ''Ukrain'' (''sic''!) (W: [[Wcráin]]).
:Mae Llywelyn yn dadlau fod rhaid i ni "dderbyn un Safon, termau un corff proffesiynol". Ond gobeithio fod y rhestr uchod gyda ffurfiau Saesneg fel ''Iraq'' ac eraill na ellir ond eu disgrifio fel dewisiadau ''bizarre'', e.e. ''Ukrain'' a ''Malaŵi'' (rhywle i falu wyau?!) yn dangos nad yw hynny'n ymarferol. Dwi'n cynnig y dylem ni ddiwygio pob datganiad a chanllaw perthnasol, rhoi rhestr gyflawn o ffurfiau Wicipedia (YR UNIG UN GYFLAWN YN GYMRAEG) ar y dudalen [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]] a diwygio'r rhestr [[Gwledydd y byd]] (dim byd dadleuol fanna - esgeulustod sy'n gyfrifol am y ffaith ei bod wedi aros heb newid). Cynigiaf ein bod yn dweud fod yr enwau gwledydd ar Wicipedia yn seiliedig ar y tair ffyhonnell, gan gymryd i ystyriaeth y gwahaniaethau rhyngddynt. Mae hynny'n ddigon. Gellir trafod achosion unigol ar y tudalennau perthnasol. [[Defnyddiwr:Anatiomaros|Anatiomaros]] 18:52, 14 Awst 2009 (UTC)
 
'''Anghytuno''' Mae i heddwas, athro, mam a thad, swyddog neu weinyddwr swyddfa, neu blentyn 6ed dosbarth weld y geiriau: "Mabwysiadwyd ffurfiau safonol Bwrdd yr Iaith yn Awst 2009 (gyda rhai eithriadau)", neu "Mabwysiadwyd ffurfiau safonol yr Atlas Cymraeg (Dafydd Orwig) yn Awst 2009 (gyda rhai eithriadau)" yn llawer cryfach, gwell a mwy credadwy na, "Mabwysiadwyd ffurfiau ansafonol, mympwyol gan bersonau dienw Wicipedia, dros gyfnod o amser." [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 20:17, 14 Awst 2009 (UTC)
 
'''Llythyr gan Fwrdd yr Iaith ar y Datblygiadau'''
Derbyniais yr ebost canlynol heddiw'r bore:
 
:Annwyl Llywelyn2000
 
:Diolch ichi am dynnu ein sylw at eich trafodaeth ynghylch enwau lleoedd tramor. Rydym yn falch bod canllawiau'r Bwrdd yn cael eu hystyried yn hyn o beth. Ar hyn o bryd rydym ar ddeall bod ACCAC yn y broses o gyhoeddi Atlas Cymraeg newydd a bydd Tîm Safoni Enwau Lleoedd y Bwrdd yn edrych o'r newydd ar ei ganllawiau ar sail meini prawf yr Atlas o safbwynt enwau lleoedd tramor. Diolch am dynnu ein sylw at yr anghysonderau y gwelwch yn y canllawiau, byddwn yn eu hystyried hwythau wrth adolygu'r rhestr.
 
:Nid peth hawdd yw pennu dull safonol o enwi enwau lleoedd tramor gan ei fod yn ddibynnol dros ben ar arfer a chwaeth y sawl sydd wrth y gwaith. Mae'r Tîm Safoni Enwau Lleoedd yn cynnwys academyddion, arbenigwyr enwau lleoedd, cyfieithwyr a geiriadurwyr sydd â gwybodaeth helaeth a thrylwyr ynghylch yr iaith Gymraeg. Fel ym mhob achos o ran orgraff y Gymraeg ni fyddem yn dymuno i fympwy unigolion fynd yn groes i gyngor gwrthrychol a ddarparwyd yn dilyn trafodaeth ac ystyriaeth drylwyr. Pe baech chi'n dewis arddel ffurfiau sy'n groes i gyngor y Bwrdd, buasem yn gwerthfawrogi pe bai modd i chi ddarparu rhestr i ni o'r enwau hynny. Bydd hyn yn caniatáu i ni rhoi sylw penodol i'r enwau hynny wrth adolygu'r rhestr maes o law.
 
:Yn gywir
 
:Lowri W. Williams
 
:Arweinydd Uned Safoni Termau a Chyfieithu /
:Leader Terminology Standardisation and Translation Unit
:Bwrdd yr Iaith Gymraeg / Welsh Language Board
 
Unrhyw sylwadau? [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 02:47, 15 Awst 2009 (UTC)
 
:: Mae angen i ni gymeryd cam yn ôl ar y pwnc yma rwy'n meddwl. Mae yna deimladau cryf, ac os na fyddwn yn ofalus fe aiff yn ffrae ac fe allem golli un neu fwy o gyfrannwyr. Allwn ni ddim fforddio hynny. Fe fuaswn i'n awgrymu, fel cam gyntaf, creu pwll tywod gyda fersiwn o [[Amrywiadau ar enwau gwledydd yn Gymraeg]] sydd a cholofn yn dangos y ffurf sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar Wicipedia, wedyn gallwn weld faint yn union o'r ffurfiau sydd gennym ar y wici ar hyn o bryd sy'n ddadleuol a faint sydd ddim. [[Defnyddiwr:Rhion|Rhion]] 07:02, 15 Awst 2009 (UTC)
:::Cytuno yn llwyr efo Rhion! [[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 08:01, 15 Awst 2009 (UTC)
:::: Diolch Rhys. Rwyf wedi dechrau arni, ar fy nhudalen defnyddiwr yn hytrach na phwll tywod. Fe welwn beth yw'r patrwm cyn bo hir. [[Defnyddiwr:Rhion|Rhion]] 13:14, 15 Awst 2009 (UTC)
 
== Angen gwirfoddolwyr i gyfieithu gêm fideo ==
 
[http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/mid/8196008.stm Translation appeal on video game] Dydy hwn ddim yn ymwneud â'r wici ond meddwl falle fase gan rhai o fan hyn ddiddordeb mewn rhoi cymorth yn y brosiect hon. Mi fasai'n gosod rhagesiampl da ar gyfer y dyfodol dwi'n credu, a gobeithio os bydd yn llwyddianus, bydd eraill yn gweld y gwerth o gyfieithu eu gemau i'r Gymraeg hefyd. [[Defnyddiwr:Thaf|Thaf]] 13:05, 12 Awst 2009 (UTC)
:Fe wna i helpu allan (efo defnydd cysgeir a cysill!!!)- ond sut yr ydym fod cysylltu efo nhw? Does dim cyswllt o wefan y bbc. [[Defnyddiwr:Rhyshuw1|Rhys Thomas]] 19:08, 14 Awst 2009 (UTC)
::Roedd yr ebost hwn ar eu gwefan - info@arberthstudios.com [[Defnyddiwr:Thaf|Thaf]] 08:46, 17 Awst 2009 (UTC)