Woloff (pobl): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
i/w
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Grŵp ethnig sy'n byw yn [[Senegal]], [[Gambia]] a [[Mawritania]] yng ngorllewin Affrica yw'r '''Woloff''', hefyd '''Wolof''' neu '''Ouolof'''.
 
Yn Senegal, mae tua 40% o'r boblogaeth yn eu hystried eu hunain yn Woloff. Hwy yw mwyafrif y boblogaeth yn yr ardal rhwng [[Saint-Louis, Sénégal|Saint-Louis]] yn y gogledd, [[Kaolack]] yn y canolbarth a [[Dakar]] yn y gorllewin. Er mai Ffrangeg yw iaith swyddogol Senegal mae tua 80% o boblogaeth y wlad yn siarad yr iaith [[Woloffeg]], yn cynnwys pobl nad ydynt yn aelodau o grŵp ethnig y Woloff ac sy'n ei siarad fel ail iaith.
 
Mae'r Woloff yn ffurfio tua 15% o boblogaeth [[Y Gambia]], yn cynnwys tua 50% o boblogaeth y brifddinas, [[Banjul]]. Ym Mawritania, mae'r Woloff yn ffurfio tua 7% o'r boblogaeth.