Ordoficiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
manion, cat
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Roedd yr '''Ordoficiaid''' ([[Lladin]]: ''Ordovices'') yn un o'r llwythau [[Celtiaid|Celtaidd]] oedd yn byw yng [[Cymru|Nghymru]] yng nghyfnod y [[Cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru|Rhufeiniaid]] a chyn hynny. Yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Cymru yr oedd tiriogaeth y llwyth yma, ac roeddynt yn rhannu ffîn a'r [[Silwriaid]] yn y de-ddwyrain a'r [[Deceangli]] yn y gogledd-ddwyrain.
 
Credir fod enw'r llwyth yn dod o'r gair [[Brythoneg]] sy'n cyfateb i ''gordd''' yn [[Cymraeg|Gymraeg]] (cymharer yr [[Hen Wyddeleg]] ''Ord'' "morthwyl"). Yr oedd y rhan fwyaf o diriogaeth y llwyth yn dir mynyddig, ac mae'n debyg fod eu heconomi yn dibynnu fwy ar gadw gwartheg a defaid na thyfu cynydau. Yr oeddynt yn un o'r llwythi a ymladdodd ffyrnicaf yn erbyn y Rhufeiniad. Am gyfnod cawsant eu harwain gan [[Caradog]] (Caratacus), oedd wedi dod i diriogaeth y Silwriaid i arwain y gwrthwynebiad i Rufain wedi i'w lwyth ei hun gael ei orchfygu gan y Rhufeiniaid. Yna symudodd i diriogaeth yr Ordoficiaid, ac mae'n ymddangos iddo gael ei dderbyn fel eu harweinydd mewn rhyfel. Arweiniodd hwy ym Mrwydr [[Brwydr Caer Caradoc|Mrwydr Caer CaradocCaradog]], ond gorchfygwyd hwy gan fyddin Rhufain dan [[Rhestr Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain|lywodraethwr Prydain]] [[Ostorius Scapula|Publius Ostorius Scapula]].
 
Fodd bynnag erbyn dechrau'r 70au yr oedd yr Ordoficiaid yn ymladd yn erbyn Rhufain eto, a llwyddasant i ddinistrio corff o farchogion yn llwyr. Ymosodwyd arnynt gan [[Agricola|Gnaeus Julius Agricola]] yn [[77]]/[[78]] O.C. a'u gorchfygu. Yn ôl yr hanesydd [[Tacitus]], mab-yng-nghyfraith Agricola, lladdodd bron bob copa gwalltog o'r llwyth. Nid yw hynny'n debygol o ystyried natur tiriogaeth y llwyth a'i nifer, ac mae'r cofnod archaeolegol yn awgrymu fod garsiynau wedi eu cadw yn y caerau Rhufeinig yn nhiriogaeth yr Ordoficiaid am gyfnod hwy nag mewn mannau eraill yng Nghymru. Mae hyn yn awgrymu fod yr Ordoficiaid nid yn unig yn parhau mewn bodolaeth ond yn parhau i gael eu hystyried fel perygl posib.