Flora Forster: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rob Rhys (sgwrs | cyfraniadau) tudalen newydd ar Flora Forster (1896-1981) |
Rob Rhys (sgwrs | cyfraniadau) ychwanegu Llyfryddiaeth |
||
Llinell 1:
Roedd Flora Foster yn addysgwraig ac yn awdur. Fe'i ganwyd yn St Thomas, Abertawe yn 1896, yn ferch i Joseph ac Alice Forster.
==Addysg==
Aeth Flora i Ysgol Dynevor yn y dre ac yn 1915 dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Mary Ewart i astudio Saesneg am dair blynedd yng Ngholeg Somerville, Prifysgol Rhydychen. Un o'i chyfoedion yn Rhydychen, a ffrind iddi weddill ei hoes, oedd Margaret Kennedy, a aeth yn ei blaen i greu cryn argraff yn y 1920au gyda'i nofel ''The Constant Nymph''. Daeth hefyd ar draws myfyriwr hŷn o Rydcymerau yn Sir Gaerfyrddin
▲Aeth Flora i Ysgol Dynevor yn y dre ac yn 1915 dyfarnwyd iddi Ysgoloriaeth Mary Ewart i astudio Saesneg am dair blynedd yng Ngholeg Somerville, Prifysgol Rhydychen. Un o'i chyfoedion yn Rhydychen, a ffrind iddi weddill ei hoes, oedd Margaret Kennedy, a aeth yn ei blaen i greu cryn argraff yn y 1920au gyda'i nofel ''The Constant Nymph''. Daeth hefyd ar draws myfyriwr hŷn o Rydcymerau yn Sir Gaerfyrddin. D. J. Williams, a bu cyfeillgarwch a gohebiaeth rhwng y ddau hyd at 1925. Cedwir yr ohebiaeth yng Nghasgliad D. J. Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Gwrthododd gynigion gan D. J. Williams i'w briodi.
==Llenydda==
Llinell 13 ⟶ 12:
Ar ôl graddio yn 1918 cafodd swydd yn dysgu Saesneg a Lladin yn Newport High School yng Nghasnewydd. Yn 1920 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri. Aeth wedyn i swydd yng Ngholeg Homerton, Prifysgol Caergrawnt, coleg hyfforddi, yn 1922 a'r flwyddyn ganlynol i swydd arall mewn coleg hyfforddi yn Dudley. Pan sefydlwyd ysgol uwchradd newydd i ferched yn Malvern Hall, Solihull, yn 1931 fe'i penodwyd yn brifathrawes gan ddal y swydd yn Solihull High School for Girls hyd at ei hymddeoliad yn 1961. Roedd yn uchel iawn ei pharch yn yr ardal a chynigir ysgoloriaeth yn ei henw o hyd i fyfyrwyr yng nghylch Solihull. Bu farw yn 1981.
==Llyfryddiaeth==
Flora Forster, ''Brown de Bracken'' (1922)
Gwybodaeth fywgraffyddol yn seiliedig ar dystiolaeth Cyfrifiad 1911, y llythyrau yng Nghasgliad D. J. Williams a gwybodaeth a dderbyniwyd gan Adran Treftadaeth Cyngor Solihull.
|