Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg: tsieini = china (platiau ayyb)
Llinell 32:
[[Image:CymruMap.PNG|thumb|250px|Teyrnasoedd Cymru.]]
 
YnAr dechrauddechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig [[Teyrnas Powys|Powys]], yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr [[Eingl-Sacsoniaid]], yn enwedig teyrnas [[Mercia]]. Collodd Powys cryn dipyn o'i thiriogaeth, oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol, gan gynnwys yr hen ganolfan, [[Pengwern]]. Efallai fod adeiladu [[Clawdd Offa]], yn draddodiadol gan [[Offa]], brenin Mercia yn yr [[8fed ganrif]], yn dynodi ffin wedi ei chytuno.
 
Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd [[Rhodri Mawr]], yn wreiddiol yn frenin [[Teyrnas Gwynedd]], a daeth yn frenin Powys a [[Ceredigion]] hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, [[Hywel Dda]], ffurfio teyrnas [[Deheubarth]] trwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn [[942]] roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio [[Cyfraith Hywel]] trwy alw cyfarfod yn [[Hendy-gwyn ar Daf]]. Pan fu ef farw yn [[950]] gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.