Cato yr Hynaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gwleidydd ac awdur Rhufeinig oedd '''Marcus Porcius Cato Censorius''', a elwir yn '''Cato yr Hynaf''' (i'w wahaniaethu oddi wrth [[Cat...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 17:38, 4 Ionawr 2010

Gwleidydd ac awdur Rhufeinig oedd Marcus Porcius Cato Censorius, a elwir yn Cato yr Hynaf (i'w wahaniaethu oddi wrth Marcus Porcius Cato yr Ieuengaf) neu Cato y Censor (234 CC - 149 CC.

Ganed Cato yn Tusculum; roedd ei dad yn perthyn i ddosbarth cymdeithasol y marchogion (eques). Ymunodd a'r fyddin yn 217 CC, a daeth yn Dribwn Milwrol yn 214 CC. Yn 204 Cc, etholwyd ef i swydd Quaestor, yna yn 199 CC yn Aedile. Yn 198, etholwyd ef i swydd Praetor cyn dod yn llywodraethwr Sardinia. Etholwyd ef yn Gonswl yn 195 CC. Yn ystod ei gyfnod fel conswl. bu'n arwain byddin yn erbyn gwrthryfelwyr yn Sbaen. Yn 191 CC, bu'n ymladd yn y rhyfel yn erbyn Antiochus III. Yn 184 CC, etholwyd ef i swydd Censor.

Priododd ddwywaith, a chafodd ddau fab, Marcus Porcius Cato Licinianus a Marcus Porcius Cato Salonianus.