Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cato yr Hynaf"

Ychwanegwyd 592 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
B
Ganed Cato yn [[Tusculum]]; roedd ei dad yn perthyn i ddosbarth cymdeithasol y marchogion ''([[eques]])''. Ymunodd a'r fyddin yn [[217 CC]], a daeth yn [[Tribwn Milwrol|Dribwn Milwrol]] yn [[214 CC]]. Yn [[204 CC]], etholwyd ef i swydd [[Quaestor]], yna yn [[199 CC]] yn [[Aedile]]. Yn [[198]], etholwyd ef i swydd [[Praetor]] cyn dod yn llywodraethwr [[Sardinia]]. Etholwyd ef yn [[Conswl Rhufeinig|Gonswl]] yn [[195 CC]]. Yn ystod ei gyfnod fel conswl. bu'n arwain byddin yn erbyn gwrthryfelwyr yn [[Sbaen]]. Yn [[191 CC]], bu'n ymladd yn y rhyfel yn erbyn [[Antiochus III]]. Yn [[184 CC]], etholwyd ef i swydd [[Censor]].
 
Priododd ddwywaith, a chafodd ddau fab, [[Marcus Porcius Cato Licinianus]] a [[Marcus Porcius Cato Salonianus yr Hynaf|Marcus Porcius Cato Salonianus]]. Roedd yn ddylanwadol iawn yn [[Senedd Rhufain]]. Dechreuodd ymgyrch i sicrhau fod dinas [[Carthago]] yn cael ei dinistrio, gan ddiweddu pob araith, ar unthyw bwnc, gyda'r geiriau ''Ceterum censeo, Carthaginem esse delendam'' (''Heblaw hynny, rwy'n credu fod rhaid dinistrio Carthago''). Yn 149 CC, yn fuan wedi marwolaeth Cato, aeth Carthago i ryfel yn erbyn [[Numidia]] heb ganiatâd Rhufain. Cyhoeddodd Rhufain ryfel ar Carthago, a gyrrwyd byddin Rufeinig dan [[Publius Cornelius Scipio Aemilianus Africanus minor|Scipio Aemilianus]] yn ei herbyn. Dinistrwyd Carthago ar ddiwedd y rhyfel.
 
[[Categori:Gweriniaeth Rhufain]]
37,236

golygiad