Richard Davies (Mynyddog): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Bardd o Gymro ([[1833]] - [[14 Gorffenaf]], [[1877]], a aned yn [[Llanbrynmair]], [[Trefynwy]] oedd '''Richard Davies''' ('''Mynyddog''').
 
Ganwyd Mynyddog yn '''Y Fron''', cartref ei rieni yn Llanbrynmair, yn 1833. Treuliodd ei ieuenctid yn amaethu ar y fferm teuluol ac yn bugeilio ar fryniau Llanbrynmair. Mae'r bywyd hwnnw yn yr awyr agored yng nghanol gogoniant natur a'r gymdeithas Gymraeg glos roeddyr oedd yn cynnalei chynnal ym mhentrefi bach cefn gwlad [[Maldwyn]] a [[Meirionnydd]] yn elfen ganolog yn ei waith.
 
Roedd Mynyddog yn fardd hynod boblogaidd yn ei ddydd ymhlith y werin bobl, fel ei gyfoeswr [[John Ceiriog Hughes|Ceiriog]]. Dechreuodd Mynyddog farddoni yn y dull eisteddfodol oedd yn ffasiynol ar y pryd, gyda'r [[Pryddest|bryddest]] a'r [[awdl]] gorlwythedig â delweddau aruchel, ond yn fuan yn ei yrfa trodd i gyfansoddi cerddi byrrach ar y mesurau rhyddion ac ar geinciau poblogaidd Seisnig. Roedd y cerddi hyn yn gerddi i'w datgan a'u canu, ac yn ymwneud a phethau roedd pawb yn eu deall, megis bywyd natur a chylch y tymhorau, caru, difyrrwch diniwed, hiraeth a throeon bywyd beunyddiol, weithiau'n drist, weithiau'n ddoniol.