Rhyfel y Cynghreiriaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crewyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Rhyfel a ymladdwyd yn yr Eidal rhwng 91 CC a 88 CC oedd '''Rhyfel y Cyngheiriaid''' (Lladin: ''Bellum soci(or)um'' neu ''Marsicum bellum''). Y...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:37, 6 Ionawr 2010

Rhyfel a ymladdwyd yn yr Eidal rhwng 91 CC a 88 CC oedd Rhyfel y Cyngheiriaid (Lladin: Bellum soci(or)um neu Marsicum bellum). Ymladdwyd y rhyfel rhwng Gweriniaeth Rhufain ar un ochr a nifer o bobloedd eraill yr Eidal oedd wedi bod mewn cynghrair a Rhufain ar yr ochr arall.

Ers i Rufaibn ddechrau ymestyn ei grym dros yr Eidal, roedd wedi gwneud cytundebau ar wahân a gwahanol civitates, gan eu hystyried fel cyngheiriaid (socii). Roedd gan y gyngheiriaid fesur helaeth o hunanlywodraeth, ond roedd rhaid iddynt gyflenwi milwyr i fyddinoedd Rhufain. Tyfodd anfodlonrwydd ar y drefn yma ymhlith y cyngheiriaid, a ddymunai ddod yn ddinasyddion Rhufeinig. Yn 91 CC, rhoddodd y tribunus plebis Marcus Livius Drusus minor gynnig ymlaen i roi dinasyddiaeth Rufeinig i'r socii, ond llofruddiwyd ef cyn i'r cais lwyddo. Gwrthryfelodd y socii, gan greu cynghrair gyda Corfinium fel prifddinas.

Bu ymladd caled, ond llwyddodd Rhufain i sicrhau heddwch trwy ymestyn dinasyddiaeth Rhufeinig yn raddol, yn gyntaf i'r cyngheiriaid oedd wedi aros yn deyrngar i Rufain trwy'r Lex Iulia yn 90 CC. Yn 89 CC, rhoddodd y Lex Plautia Papiria ddinasyddiaeth Rufeinig i bawb yn yr Eidal i'r de o afon Po, ar yr amod eu bod yn rhoi gorau i'r ymladd o fewn dau fis. Rhoddodd y Lex Pompeia ddinasyddiaeth Ladin i bawb yn yr Eidal i'r gogledd o afon Po.

Llwyddodd hyn i roi diwedd ar yr ymladd yng ngogledd yr Eidal, ond parhaodd y Samnitiaid i ymladd hyd 82 CC. Yn y diwedd, gorchfygwyd hwy gan Lucius Cornelius Sulla.