Dubai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TobeBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: war:Dubai
BDim crynodeb golygu
Llinell 26:
Dengys dogfennau ysgrifenedig fodolaeth y ddinas o leiaf 150 o flynyddoedd cyn i'r Emiradau Arabaidd Unedig gael eu ffurfio. Mae Dubai yn rhannu cyfundrefnau cyfreithiol, gwleidyddol, milwrol ac economaidd gyda'r Emiradau eraill o fewn fframwaith ffederal, er bod gan bob emiraeth reolaeth dros rhai swyddogaethau fel gweinyddu'r gyfraith a chynnal a chadw cyfleusterau lleol. Mae gan Dubai y boblogaeth fwyaf a hi yw ail emiraeth fwyaf o ran arwynebedd ar ôl [[Abu Dhabi]]. Dubai ac Abu Dhabi yw'r unig ddwy ermiraeth sydd a'r pŵer i veto ar faterion o bwysigrwydd cenedlaethol o dan ddeddfwriaeth y wlad. Mae brenhinlin Al Maktoum wedi rheoli Dubai ers 1833. Mae rheolwr presennol Dubai, Mohammed bin Rashid Al Maktoum hefyd yn Brif Weinidog ac Is-arlywydd yr Emiradau Arabaidd Unedig.
 
Daw prif incwm y ddinas o [[twristiaeth|dwristiaeth]], [[masnach]], gwerthu cartrefi a gwasanaethau ariannol. Mae arian o betrol a nwy naturiol yn cyfrif am lai na 6% (2006) o economi $37 biliwn (UDA) Dubai. Fodd bynnag, cyfrannodd gwerthu tai a'r diwydiant adeiladu 22.6% i'r economi yn 2005, cyn y twf adeiladu ar raddfa eang a welir ar hyn o bryd. Lleolir twr fwyaf y Byd sef y [[Burj DubaiKhalifa]] yno. Mae Dubai wedi denu sylw yn sgil ei chynlluniau adeiladu a'i digwyddiadau ym myd chwaraeon.
 
==Etymoleg==