Cadwallon ap Cadfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dolen i Frwydr Hexham
Moliant C. ayyb
Llinell 1:
Roedd '''Cadwallon ap Cadfan''' (bu farw [[633]]) yn frenin [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] o tua 625 hyd ei farw.
 
==Hanes==
Etifeddodd Cadwallon deyrnas Gwynedd ar farwolaeth ei dad, [[Cadfan ap Iago]]. Ymosododd [[Edwin, brenin Northumbria|Edwin]] o [[Deira]] ([[Northumbria]] heddiw) ar Wynedd gan gyrraedd cyn belled ag [[Ynys Môn]] gan orfodi Cadwallon i ffoi i [[Ynys Lannog]] ac yna i [[Iwerddon]]. Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'' digwyddodd hyn yn [[629]]. Yn ôl [[Sieffre o Fynwy]] yr oedd Edwin flynyddoedd ynghynt wedi cael lloches gan dad Cadwallon, [[Cadfan]], ac mae'r [[Trioedd Cymreig]] yn disgrifio Edwin fel "un o dri gormeswr ar Fôn a fagwyd ar yr ynys".
 
Daeth Cadwallon i gytundeb â [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac ymosododd y ddau ar Northumbria. Lladdwyd Edwin mewn brwydr ym [[Brwydr Meicen (Hatfield)|Meicen]] (neu Meigen: "Heathfield" yn [[Saesneg]], sef Hatfield Chase yn Swydd Efrog yn ôl pob tebyg) yn [[632]].<ref>''Hanes Cymru'' gan John Davies, Llyfrau Penguin, 1990; tudalen 62.</ref>. Dyma'r cofnod cyntaf i Gymry a Saeson ymuno mewn cynghrair fel hyn.
 
Am gyfnod yr oedd Cadwallon yn feistr ar Northumbria, ond y flwyddyn ganlynol lladdwyd ef ym [[Brwydr Hexham|Mrwydr Hexham]] yn erbyn Oswald, brenin Brynaich.
 
==''Moliant Cadwallon''==
Credir fod y gerdd ''[[Moliant Cadwallon]]'' yn perthyn i gyfnod Cadwallon ei hun. Mae'n bosibl mai [[Afan Ferddig]] a'i cyfansoddodd, er nas oes modd profi hynny. Yn ôl y gerdd, ymestynnai awdurdod Cadwallon o Fôn i Fynwy ([[Porth Sgiwed]]), a chyfeirir ato yn ymosod ar diriogaeth [[Elmet|Elfed]].
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 13 ⟶ 17:
''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion)
 
 
[[CategoryCategori:Marwolaethau 633]]
[[Categori:TeyrnasHanes GwyneddCymru]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Category:Marwolaethau 633]]
 
[[en:Cadwallon ap Cadfan]]