Divali: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhoi faith newydd
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Iluvatar (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 159.86.182.5 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan BOT-Twm Crys.
Llinell 1:
[[Delwedd:Diwalipuja.jpg|250px|bawd|Offrymau ''Puja'' ar gyfer '''Divali''']]
Hello fi yw’r doctor
Mae '''Divali''' neu '''Diwali''' ([[Hindi]] '''दीवाली'''; hefyd '''Deepavali''' neu '''Dipavali''', [[Sansgrit]] '''दीपावली''', [[Tamil]] '''தீபாவளி''') yn un o wyliau pwysicaf yn nhraddodiad yr [[Hindu]], y [[Jain]] a'r [[Sikh]] sy'n para am bum diwrnod ym mis Hydref.
 
Mae '''Divali''' (Sansgrit ''Dipavali'' "Rhes o oleuadau") yn symboleiddio buddugoliaeth Daioni dros Ddrygioni, Goleuni dros Dywyllwch, a chaiff lampau eu cynnal yn arwydd o obaith i'r ddynolryw. Yn nhermau [[mytholeg]] [[Hindŵaeth|Hindŵaidd]] mae Divali'n dathlu dychweliad yr Arglwydd [[Rama]] wedi iddo ladd y diafol [[Ravana]] ar ddiwedd ei gyfnod o grwydro fel alltud am 14 blynedd (dethlir y fuddugoliaeth dros Ravana ar [[Dussehra]], 19-21 diwrnod cyn Divali). Canolbwynt amlycaf y dathlu yw'r lampau a goleuadau o bob math sydd yn llosgi yn ystod yr ŵyl. Erbyn heddiw mae [[tân gwyllt]] yn rhan o'r dathlu hefyd mewn rhai ardaloedd yn India.
 
Mae Divali yn parhau am bum diwrnod ar ddiwedd mis Hydref neu ddechrau mis Tachwedd. Yn wreiddiol roedd hi'n ŵyl ffrwythlondeb ac fe'i dethlir felly o hyd mewn rhannau o India, yn arbennig yn yr ardaloedd gwledig. Hyd at drothwy'r [[19g]] roedd yr agwedd honno'n eithaf amlwg ac arferai ffermwyr fynd i'r twmpathau gwrtaith i'w haddoli ag offrymau o flodau, ffrwythau a chanhwyllau.
 
== Y diwrnod cyntaf ==