Walt Disney: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
Mae'n adnabyddus fel un o'r ffigurau mwyaf dylanwadol a dyfeisgar ym maes adloniant yn ystod yr 20g. Fel cyd-sylfaenydd (gyda'i frawd Roy O. Disney) y cwmni Walt Disney Productions, daeth Disney yn un o'r cynhyrchwyr ffilmiau enwocaf yn y byd. Mae gan y gorfforaeth a sefydlwyd ganddo, sydd bellach yn cael ei adnabod fel The Walt Disney Company, drosiant blynyddol heddiw oddeutu $35 biliwn.
 
Gwnaeth Disney enw iddo ei hun hefyd fel un o ddatblygwyr mwyaf dyfeisgar y cyfrwng [[animeiddio]] ac fel cynllunydd parciau thema. Creodd Disney a'i staff rai o gymeriadau chwedlonol enwocaf y byd, gan gynnwys [[Mickey Mouse]]. Ei enw ef sydd ar barciau [[Disneyland]] a Walt Disney World Resort yn [[yr Unol Daleithiau]], [[Japan]], [[Ffrainc]] a [[Tsieina]]. Walt Disney’s hoff cymeriad or ffilmiau i'w Goofy <ref> https://www.funfactsabout.net/interesting-disney-facts/ <ref/>
Bu farw Disney o gancr yr ysgyfaint ar [[15 Rhagfyr]] [[1966]], rhai blynyddoedd yn unig cyn i Walt Disney World agor yn Lake Buena Vista, [[Fflorida]].