Wicipedia:Pwy sy'n ysgrifennu Wicipedia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Ehangu
Llinell 10:
 
Yn ôl polisi Wicipedia ynglyn a g ychwanegu at y gwyddoniadur, dim ond datganiadau y gellir eu [[Wicipedia:Gwiriadwyedd|gwirio]] y dylid cynnwys, ac ni ddylid ychwanegu [[Wicipedia:Dim ymchwil gwreiddiol|ymchwil gwreiddiol]]. Annoga canllaw arddull Wicipedia olygwyr i [[Wicipedia:Nodi ffynonellau|nodi ffynonellau]]. Weithiau nid yw Wicipedwyr yn dilyn y canllawiau hyn am eu bod yn eu hanghofio neu am nad ydynt yn ymwybodol o'r polisi, ac tan fod ffynonellau'n cael eu cynnwys, ni all darllenwyr yr erthygl wirio'r cynnwys maent yn ei ddarllen. Pe digwydd hyn, byddai tag "angen ffynhonnell" yn ymddangos ger y testun sydd heb ei wirio.
 
Pan fo nifer o bobl yn cydweithio er mwyn casglu gwybodaeth ar yr un pwnc, bydd anghydfodau'n amlygu eu hunain. Nodwedd ddefnyddiol ar Wicipedia yw'r gallu i dagio erthygl neu adran o erthygl drwy ddweud fod yna [[Wicipedia:Anghydfod safbwynt ddiduedd|anghydfod ynglyn â safbwynt ddiduedd]]. Mae'r nodwedd hon yn hynod ddefnyddiol ar gyfer pynciau dadleuol, pynciau a allai newid yn sgil materion cyfoes neu bynciau eraill lle ceir ystod o safbwyntiau gwahanol. Er mwyn datrys yr anghydfod, bydd y golygwyr perthnasol yn rhannu eu safbwyntiau ar [[Wicipedia:Tudalen sgwrs|dudalen sgwrs]] yr erthygl. Byddant yn ceisio dod i [[Wicipedia:Consensws|gonsensws]] er mwyn sicrhau fod pob safbwynt dilys yn cael eu cynrychioli. Golyga hyn fod Wicipedia nid yn unig yn ganolfan gwybodaeth ond hefyd yn gangolfan gydweithio.
 
Mae nifer o ddefnyddwyr Wicipedia'n edrych ar [[Wicipedia:hanes tudalen|hanes tudalen]] erthygl er mwyn asesu'r nifer, a safbwyntiau bobl sydd wedi cyfrannu at yr erthygl. Gallwch edrych hefyd ar [[Wicipedia:Tudalen sgwrs|dudalen sgwrs]] unrhyw erthygl er mwyn gweld beth mae darllenwyr a golygwyr eraill wedi dweud amdano.
 
Gwelir rhai erthyglau sydd wedi eu golygu gan nifer o bobl yn y [[Wicipedia:erthyglau dethol|rhestr o ethyglau dethol]]. Rhoddwyd statws ethyglau "dethol" i'r rhain am y cânt eu [[Wicipedia:Beth yw erthygl ddethol|hystyried yn erthyglau o safon uchel]]. (Os yw golygiadau dilynol yn dirywio safon erthygl ddethol, gall defnyddiwr enwebu'r erthygl er mwyn ei symud o'r rhestr.)
 
Y ffordd orau o benderfynu a yw datganiad penodol yn gywir yw i ddod o hyd i [[Wicipedia:Ffynonellau dibynadwy|ffynonellau dibynadwy]] annibynnol er mwyn cadarnhau'r datganiad, megis llyfrau, erthyglau o gylchgronau, straeon newyddion o'r teledu neu wefannau. Am fwy o ganllawiau ynglyn â gwerthuso cywirdeb erthyglau Wicipedia, gweler [[Wicipedia:Ymchwilio gyda Wicipedia]].