Charles Perrault: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: et:Charles Perrault
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ar:شارل بيرو; cosmetic changes
Llinell 1:
[[ImageDelwedd:ChPerrault.jpg|200px|bawd|Charles Perrault]]
Bardd, llenor a beirniad llenyddol o [[Ffrainc]] sy'n adnabyddus yn bennaf heddiw fel awdur ''[[Contes de ma mère l’Oye]]'', cyfrol enwog o [[llên gwerin|chwedlau gwerin]] [[Ffrangeg]], oedd '''Charles Perrault''' ([[12 Ionawr]] [[1628]] - [[16 Mai]] [[1703]]).
 
== Hanes ==
Ganed Perrault ym [[Paris|Mharis]], yr olaf o saith blentyn Pierre Perrault, o ddinas [[Tours]] yn wreiddiol, a'i wraig Paquette Le Clerc. Daeth ei frawd hŷn [[Claude Perrault]] yn bensaer enwog. Astudiodd lenyddiaeth ac athroniaeth yng Ngholeg Beauvais ym Mharis ond roedd yn fyfyriwr disglair ac annibynnol a gadawodd gyda chyfaill ar ôl ffraeo ag un o'r athrawon, fel y mae ei ''Mémoires'' yn cofnodi. Ar ôl cyfnod o ddarllen ac astudio'r clasuron, hen a modern, y Beibl a hanes Ffrainc, daeth yn dwrnai yn 1651. Enillodd ffafr [[Jean-Baptiste Colbert]] a chafodd le yn llys y brenin [[Louis XIV]]. Erbyn 1671 roedd yn aelod o'r ''[[Académie française]]'' ac yn 1694 ysgrifenodd y rhagymadrodd i eiriadur enwog yr academi, y ''[[Dictionnaire de l'Académie française]]''. Bu farw ym Mharis ym mis Mai 1703.
 
== Gwaith llenyddol ==
Fel cynifer o lenorion eraill ei oes roedd Perrault yn ŵr amryddawn. Roedd yn fardd medrus a gyfansoddodd sawl cerdd o safon uchel, yn feirniad llenyddol blaengar a ochrai gyda'r Moderniaid yn erbyn yr Hynafwyr gan bledio achos barddoniaeth Ffrangeg newydd glasurol a fyddai'n ddyfnach a mwy ddyrchafedig na barddoniaeth yr Henfyd (er bod ganddo barch at yr hen awduron hefyd), ac yn ysgrifwr ar sawl pwnc yn cynnwys [[hanes Ffrainc]].
 
[[ImageDelwedd:GustaveDore She was astonished to see how her grandmother looked.jpg|250px|bawd|[[Gustav Doré]]: "[[Hugan Goch Fach]] a'r Blaidd"]]
 
Ond er ei fod yn llenor penigamp yn sawl maes, fe'i cofir heddiw fel awdur ''[[Contes de ma mère l’Oye]], ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités'' (neu "''Contes de Perrault''"/"''Chwedlau Perrault''"), a gyhoeddwyd yn ei ffurf derfynnol yn [[1697]]. Casgliad o chwedlau gwerin ydyw, wedi eu casglu o ddeunydd llafar traddodiadol ond yn cael eu hadrodd o newydd gan yr awdur. Mae'r chwedlau a geir yn y gyfrol yn cynnwys rhai o'r chwedlau gwerin enwocaf heddiw, diolch, i raddau, i gyfieithiadau ac addasiadau diweddarach. Maent yn cynnwys:
 
* ''La Marquise de Salusses ou la Patience de Griselidis'' (1691)
Llinell 26:
** ''Le Petit Poucet'' ([[Bawd Fach]] neu ''Tom Thumb'')
 
Copiwyd ac addaswyd y chwedlau hyn gan awduron eraill a chafwyd sawl fersiwn ohonynt. Ond ychydig sy'n cymharu â chwedlau Perrault am symlrwydd naturiol ond urddasol eu naratif, eu diffyg [[moes]]oli a'u blas "cyntefig". Mae pawb yn gyfarwydd â hanes [[Hugan Goch Fach]] (''Little Red Riding Hood'') diolch i fersiwn [[y Brodyr Grimm]] a ffilmiau cartŵn, ond yn chwedl Perrault does dim achubiaeth yn ffurf y coedwr yn lladd y blaidd a'i fwyall: yn y chwedl gan Perrault mae'r nain - a Hugan Goch Fach ei hun hefyd, ym mreichiau'r blaidd ac yng ngwely'r nain druan - yn cael eu bwyta gan y Blaidd Mawr Drwg.
 
== Llyfryddiaeth ==
* ''Le Siècle de Louis le grand''
* ''Parallèle des anciens et des modernes en ce qui regarde les arts et les sciences. Dialogues avec le poème du siècle de Louis-le-Grand et une épitre en vers sur le génie'' (1688)
Llinell 46:
* ''Saint Paulin, évêque de Nole, poème (1686)
 
== Dolenni allanol ==
{{Comin|Charles Perrault}}
* {{eicon fr}} [http://clpav.fr/telecharger.htm Contes de Perrault] Cyfle i lwytho i lawr ffeiliau mp3 o'r chwedlau unigol i'w gwrando yn rhad ac am ddim.
Llinell 52:
 
{{DEFAULTSORT:Perrault, Charles}}
 
[[Categori:Llenorion Ffrengig]]
[[Categori:Llenorion Ffrangeg]]
Llinell 61 ⟶ 62:
[[Categori:Marwolaethau 1703]]
 
[[ar:شارل بيرو]]
[[bg:Шарл Перо]]
[[bpy:শার্ল পেরো]]