B
newid dolen
B nodyn |
B newid dolen |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:James_Cameron.jpg|bawd|dde|'''James Cameron''']]
Mae '''James Francis Cameron''' (ganed 16 Awst 1954) yn gyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr Canadaidd-Americanaidd sydd wedi ennill [[Gwobrau'r Academi|Gwobr yr Academi]]. Ysgrifennodd a chynhyrchodd ffilmiau yn armywio o [[Terminator 2: Judgment Day]] i [[Titanic (ffilm 1997)|Titanic]]. O ran themâu, mae ffilmiau Cameron yn dueddol o astudio'r berthynas rhwng y ddynoliaeth a thechnoleg. Crëodd Cameron y gyfres o ffilmiau ''Terminator'', gan weithio fel cyfarwyddwr a chyd-sgriptiwr y ffilmiau [[The Terminator (ffilm)|The Terminator]] a [[Terminator 2: Judgment Day]]. Yn ddiweddarach, ysgrifennodd a sgriptiodd y ffilm ''Titanic'', a enillodd unarddeg o Wobrau'r Academi ac a wnaeth dros $1.8 biliwn yr [[Unol Daleithiau]] (UDA) yn fyd-eang. Ar hyn o bryd, mae'r ffilmiau a gyfarwyddwyd ganddo wedi codi tua $3biliwn (UDA), heb ystyried chwyddiant. Ar ôl cyfnod o gynhyrchu ffilmiau, trodd Cameron ei olygon at ffilmiau dogfen a datblygu'r System Gamera Uno 3-D ar y cyd. Ar hyn o bryd, mae'n bwriadu dychwelyd i gynhyrchu ffilmiau gyda'r ffilm [[gwyddonias|wyddonias]] ''[[Avatar (ffilm 2009)|Avatar]]'' a fydd yn defnyddio'r dechnoleg System Gamera Uno 3-D. Disgwylir y bydd ''Avatar'' yn cael ei rhyddhau ym mis Rhagfyr 2009.
Caiff Cameron ei adnabod am ei ffilmiau sydd yn aml yn hynod flaengar, creadigol ac yn llwyddiannus o safbwynt ariannol, yn ogystal â'i dymer ffrwydrol a'i bersonoliaeth dadleugar.
|