Aberystwyth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Amwynderau ac atyniadau: wedi ychwanegu dolennau i dudalennau eraill
→‎Hanes: wedi ychwanegu adran newydd
Llinell 59:
 
Agorwyd un o [[Banciau Cymru|fanciau annibynnol cynharaf Cymru]], [[Banc y Llong]] yn y dref yn [[1762]].
 
===Cyfnod Modern Cynnar===
Ym 1649 fe wnaeth milwyr y seneddwyr dinistrio’r castell, yn gadael dim ond rhai gweddillion bach, er bod darnau'r tri thŵr yn dal i fodoli. Yn 1988, yn ystod gwaith cloddio yn ardal y castell, darganfuwyd ysgerbwd gwryw cyflawn, a oedd wedi’i gladdu’n fwriadol.
Er mai anaml y mae sgerbydau yn aros yn gyfan oherwydd y pridd asidig yng Nghymru, mae’n debyg y goroesodd y sgerbwd oherwydd y presenoldeb calch yn y pridd, o’r adeilad a gwympodd. Adnabyddir fel "Charlie", mae bellach wedi'i gartrefu yn Amgueddfa Ceredigion yn y dref, ac mae’n debyg yr oedd e’n byw yn ystod cyfnod y Rhyfel Cartref Lloegr, a bu farw yn ystod y gwarchae gan y seneddwyr. Gellir gweld ei ddelwedd mewn un o’r naw mosaig wedi’u creu i addurno muriau’r castell.
 
Plasty wedi’i adeiladu o 1783 gan Thomas Johnes oedd Hafod Uchtryd, gyda rhan ohono wedi’i gynllunio gan John Nash. Ffurfiwyd y gerddi wedi'u tirlunio gan ffrwydro darnau o’r bryniau er mwyn rhoi golygfeydd gwell o’r amgylchoedd. Adeiladwyd ffyrdd a phontydd a chafodd miloedd o goed eu plannu. Canlyniad y gwaith oedd tirlun a ddaeth yn enwog ac atynnodd llawer o ymwelwyr, gan gynnoes Samuel Taylor Coleridge, a chredir eu bod wedi ysbrydoli darn yn ei gerdd Kubla Khan. Chwalwyd y tŷ ym 1955, ond mae’r gerddi yn aros yno.
 
==Economi==